Ymestyn Mannau Awyr Agored Di-fwg yng Nghymru
Mae’r ddeddfwriaeth ddi-fwg a roddwyd ar waith yng Nghymru ymhlith y mwyaf cynhwysfawr yn y
Deyrnas Unedig, gan ymestyn amddiffyniadau rhag mwg ail-law yn gynyddol y tu hwnt i weithleoedd a
mannau cyhoeddus caeëdig i ystod o amgylcheddau, gan gynnwys y rhai hynny a ddefnyddir gan blant
a theuluoedd. Trwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau
Di-fwg (Cymru) 2020, estynnwyd gofynion di-fwg i dir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus,
lleoliadau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yn yr awyr agored, cerbydau sy’n cludo plant a thir ysbytai.
Estynnodd mesurau dilynol amddiffyniadau di-fwg i lety gwyliau hunangynhwysol ac unedau iechyd
meddwl. Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau hyn yn adlewyrchu newid ehangach i bolisi rheoli tybaco o
amddiffyn unigolion yn unig rhag amlygiad i fwg ail-law tuag at greu amgylcheddau lle mae ysmygu’n
llai amlwg, yn llai derbyniol, ac yn cael ei ystyried fwyfwy yn rhywbeth sy’n groes i ddisgwyliadau
cymdeithasol.
Mae’r newid hwn yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc, y mae’r amgylcheddau maen nhw’n byw,
dysgu a chymdeithasu ynddynt yn dylanwadu ar eu hagweddau a’u hymddygiad. Trwy leihau
amlygrwydd a derbynioldeb ysmygu mewn lleoliadau pob dydd, gall polisïau di-fwg gyfrannu at
ddadnormaleiddio defnyddio tybaco, gan helpu i leihau nifer y bobl sy’n dechrau ysmygu yn y dyfodol
ar yr un pryd â pharhau i amddiffyn pobl nad ydynt yn ysmygu rhag amlygiad i fwg ail-law. Mae
cyfleoedd o hyd i gryfhau’r buddion hyn mewn mannau cyhoeddus awyr agored nad ydynt yn dod o
dan y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys parciau, traethau, cyfleusterau chwaraeon a
hamdden, ardaloedd aros am drafnidiaeth, digwyddiadau awyr agored a lleoliadau lletygarwch, lle y
gallai ymestyn polisïau di-fwg leihau amlygiad i fwg ail-law ac amlygrwydd ysmygu mewn mannau a
fynychir yn aml gan blant a theuluoedd, gan gefnogi uchelgeisiau ehangach am Gymru Ddi-fwg.
Ar lefel y Deyrnas Unedig, mae’r Ddeddf Tybaco a Fêps yn gyfle pwysig i gryfhau mesurau rheoli tybaco
a helpu i greu cenhedlaeth ddi-fwg. Yn ogystal â mesurau a gynlluniwyd i roi terfyn ar werthu
cynhyrchion tybaco i genedlaethau’r dyfodol yn raddol, mae’r Ddeddf yn cynnwys pwerau i ymestyn
cyfyngiadau di-fwg (a chreu mannau cyhoeddus di-fêp dan do ac yn yr awyr agored – nad yw’r briff hwn
yn ymdrin ag ef), gan ddarparu dull deddfwriaethol o ddatblygu polisi ymhellach yng Nghymru.
Dylid darllen y briff hwn ochr yn ochr â briff polisi cynharach Iechyd Cyhoeddus Cymru (2022), ‘Ymestyn
Deddfwriaeth Ddi-fwg Bresennol Cymru i Fannau Awyr Agored Cyhoeddus Eraill’. Sefydlodd y briff
cynharach y sail resymegol dros ymestyn amgylcheddau awyr agored di-fwg yng Nghymru o safbwynt
iechyd y cyhoedd, tra bod y diweddariad hwn yn cynnwys canfyddiadau o adolygiad cyflym o
dystiolaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar. Gyda’i gilydd, mae’r ddwy ddogfen yn darparu’r sylfaen
dystiolaeth fwyaf cyfredol i gefnogi datblygu polisi yn y dyfodol yng Nghymru.