Sgyrsiau hyderus am frechlynnau – gwyddor ymddygiad a dull Cyfweld Ysgogol
Disgrifiad:
Nod y modiwl hwn yw darparu sgiliau a gwybodaeth i alluogi staff i deimlo’n fwy hyderus wrth ddechrau sgyrsiau sy’n ymwneud â brechlynnau a gwella effeithiolrwydd sgyrsiau er mwyn lleihau gwrthwynebiad a gwrthdaro. Mae’r modiwl yn egluro technegau Cyfweld Ysgogol (MI) ymarferol y gellir eu defnyddio i feithrin sgiliau sy’n trosglwyddo y tu hwnt i frechlynnau i sgyrsiau eraill mewn rolau gofal iechyd.
Mae’r modiwl wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad ag Adran Diogelu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Tîm Hyfforddiant, Canllawiau a Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru: Uned Gwyddor Ymddygiad ac Is adran Diogelu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru: Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Fel rhan o’r adnoddau ar gyfer y modiwl, mae llawlyfr DPP sydd â gweithgareddau y gallwch eu gwneud wrth i chi weithio drwy’r modiwl. Fe welwch y llawlyfr wedi’i fewnosod yn y modiwl e-ddysgu.
Addas ar gyfer:
Mae’r modiwl ar gyfer holl staff GIG Cymru sy’n ymwneud â darparu neu gefnogi rhaglenni imiwneiddio. Mae hefyd yn ddefnyddiol i staff sy’n newydd i sgyrsiau am frechlynnau a’r rhai sydd am adnewyddu neu fireinio eu dull gweithredu.
Hyd:
Dylai’r modiwl hwn gymryd tua 3 awr i’w gwblhau. Mae’r modiwl hefyd yn cynnwys 4 awr ychwanegol o weithgareddau y gellir eu defnyddio ar gyfer DPP i’ch helpu ar eich taith MI.
Cofrestru:
Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR). I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR:
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru. I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar [email protected], neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost gyda .ac.uk or .gov.uk ar y diwedd, gallwch hunangofrestru.
Allweddi cofrestru Dysgu@Cymru:
Cliciwch ar enw’r cwrs a bydd yn gofyn am eich allwedd cofrestru. Yr allwedd cofrestru ar gyfer practisiau meddygon teulu yw cod W eich practis ac yna ! e.e. W12345! Ar gyfer defnyddwyr eraill, os ydych yn ansicr o’ch allwedd cofrestru, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth ar [email protected].
Am fwy o arweiniad ar sut i gyrchu’r cwrs: