Risg iechyd oherwydd gwres: Nodyn cyngor ar gyfer partneriaid system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
Bwriad y cyngor hwn yw helpu partneriaid y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol i wella eu cynlluniau a’u paratoadau ar gyfer senarios tywydd poeth, a’u hannog i gymryd camau gweithredu pellach i atal neu leihau risgiau i iechyd, gan alluogi ymateb cyflym ac effeithiol pan fo angen, a chyfleu negeseuon allweddol i’r partneriaid hynny.