Pwysig

Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.

Neidio i'r cynnwys

Llythyr rhaglen brechlyn Cymru – newid i’r brechlyn MenACWY (MenQuadfi®) 2024

Yn dilyn tendr contract brechlynnau Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU diweddaraf ar ran y DU, bydd y brechlyn a ddefnyddir yn y rhaglen yng Nghymru yn newid i MenQuadfi® yn unig, gan ddechrau yn hydref 2024. Mae’r brechlynnau’n glinigol gyfwerth. Mae un brand yn disodli un arall. Ni fydd y rhaglen MenACWY yn newid.