Fideo MECC ar Waith: Y Dull OARS (Gwrando Myfyriol)
Mae’r sgiliau cyfathrebu craidd a ddefnyddir mewn Cyfweliadau Ysgogiadol wedi’u crynhoi gan yr acronym Saesneg OARS (Cwestiynau Agored (Open Questions), Cadarnhau (Affirmations), Gwrando Myfyriol (Reflective Listening) a Chrynhoi (Summarising)).
Gall defnyddio’r dull OARS helpu i greu sgyrsiau cefnogol sy’n canolbwyntio ar unigolion, sy’n meithrin perthynas, yn archwilio cymhelliant, ac yn grymuso unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u llesiant.
Gwyliwch y fideo byr hwn i weld ymwelydd iechyd yn arddangos Gwrando Myfyriol gyda rhieni wrth drafod gweithgarwch corfforol.