Ffurflen gais SACU
- Gwnewch yn siŵr bod y meithriniad yn bur cyn cyfeirio at SACU
- Dylid cludo arunigion naill ai ar oledd agar neu swabiau cludo trwy Hays DX neu’r Post Brenhinol. Rhaid i bob deunydd pacio gydymffurfio â UN3373. Gellir defnyddio gwasanaethau cludiant ysbyty lleol hefyd
- Dylid cyfeirio arunigion gan ddefnyddio modiwl “Anfon Prawf” TRAK, gan nodi yn y “Sylwadau” y math o ymchwiliad y gofynnir amdano,
- Gellir anfon ffurflen gais SACU ochr yn ochr â’r slip pacio Anfon Profion os oes angen gwybodaeth ychwanegol. [defnyddiwch un ffurflen yn unig fesul arunigyn a gwnewch yn siŵr bod pob adran berthnasol o’r ffurflen wedi’i chwblhau]
- Nodwch neu cysylltwch â SACU os oes angen canlyniadau ar frys
- Ar gyfer ceisiadau ansafonol, cysylltwch â SACU i drafod yr opsiynau sydd ar gael cyn cyfeirio’r arunigion.