Neidio i'r cynnwys

Fframwaith sicrwydd y bwrdd

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol Cymru. Ein pwrpas yw gweithio gyda’n gilydd ar gyfer Cymru Iachach. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach. Gyda’n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Diben y ddogfen hon yw crynhoi sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflawni ac yn cynnal llywodraethu corfforaethol da er mwyn sicrhau y cyflawnir ei blaenoriaethau strategol a amlinellir yn ein Strategaeth Hirdymor i wella iechyd y boblogaeth a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, wrth ddarparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus diogel, effeithiol ac o ansawdd uchel.