Fepio doeth (a Chanllaw Defnyddiwr Proffesiynol)
Cynulleidfa: Ymarferwyr rheng flaen, timau nyrsio ysgolion, gweithwyr ieuenctid, athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fe’i datblygwyd yn bennaf i gefnogi sgyrsiau strwythuredig gyda phlant a phobl ifanc (12-17 oed), er, gall yr adnodd gael ei ddefnyddio hefyd gydag oedolion sy’n ceisio cymorth i leihau neu roi’r gorau i fepio.
Ymyriad strwythuredig byr ac adnodd cyfeirio i gefnogi sgyrsiau am fepio, dibyniaeth ar nicotin, cymhelliant i newid a mynediad at gefnogaeth briodol.