E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Newid ymddygiad 2024
Mae ymddygiad yn chwarae rhan allweddol mewn gwella iechyd a llesiant. Mae nodi a deall ymddygiadau a ffactorau sy’n dylanwadu arnynt, a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r ffactorau hyn yn hanfodol i gyflawni uchelgeisiau polisi ac arfer iechyd y cyhoedd. Mae llawer o weithwyr proffesiynol ar draws y system iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn ymdrechu i gael effaith ar iechyd y boblogaeth gan ddefnyddio’r math hwn o wyddor ymddygiad. Mae ein e-fwletin ym mis Hydref yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau a mentrau sy’n defnyddio’r gwyddor ymddygiad i wella iechyd a lles cymunedau ledled Cymru.