Pwysig

Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.

Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru

Croeso i e-fwletin mis Awst sy’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd. Mae anghydraddoldebau iechyd yn deillio o amrywiaeth o ffactorau rhyng-gysylltiedig yn cynnwys mynediad at wasanaethau gofal iechyd, ymddygiad yn ymwneud ag iechyd, lles meddyliol, cydlyniant cymdeithasol a phenderfynyddion ehangach iechyd fel arian ac adnoddau, addysg, gwaith, tai a’r amgylcheddau adeiledig a naturiol.