E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Iechyd yr ymennydd a lleihau risg dementia
Ymwybyddiaeth gyhoeddus gyfyngedig sydd o’r ffactorau risg sy’n cyfrannu at ddementia, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol bod tua 45% o achosion yn gysylltiedig â ffactorau y gellir eu newid fel colli clyw, ysmygu, anweithgarwch, ac iechyd cardiofasgwlaidd. Ar gyfer ein e-fwletin sydd ar ddod, rydym yn gwahodd cyfraniadau gan brosiectau a mentrau sy’n canolbwyntio a ratal ac yn helpu i gyfyngu ar y ffactorau risg a all gyfrannu at ddementia.