Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Deall a mynd i’r afael ag effaith ysmygu a defnyddio e-sigaréts yng Nghymru ar iechyd cyhoeddus

Mae ysmygu’n effeithio ar fywyd plant a phobl ifanc trwy gydol eu plentyndod ac mae fepio wedi cynyddu ymhlith poblogaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gydag 8% o’r boblogaeth oedolion yn dweud eu bod yn eu defnyddio nhw ar hyn o bryd, a 5% o bobl ifanc 11 i 16 oed yn defnyddio fêps yn wythnosol, o leiaf. Mae’r e-fwletin hwn yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau sy’n amlygu mentrau, polisïau neu raglenni lleol, rhanbarthol neu genedlaethol sy’n canolbwyntio ar lleihau anghydraddoldebau o ran ysmygu, cynyddu cyfran y plant ifanc a’r bobl ifanc sy’n cael plentyndod di-fwg, a sicrhau bod dull system gyfan ar gyfer Cymru ddi-fwg.