Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Cynllunio ac iechyd y cyhoedd: Cyfleoedd i wella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Mae ein hamgylchoedd, sef yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol, yn cael effaith wirioneddol ar ein hiechyd a’r ffordd rydym yn teimlo. Gall y ffordd y mae ein cartrefi’n cael eu dylunio, a’u lleoliad, yn enwedig o ran pethau fel trafnidiaeth a gofal iechyd, wneud gwahaniaeth mawr i’n lles cyffredinol. Mae’r ffordd y mae ein mannau byw wedi’u gosod yn bwysig, hefyd. Gall cael mynediad i fannau gwyrdd a mannau ar gyfer gweithgareddau ein helpu i gadw’n egnïol, a lleihau straen, a chadw ein meddyliau’n iach. Ac os yw ein cartrefi mewn lleoedd sydd â chyfleoedd da ar gyfer gwaith, mae hyn yn helpu ein cyllid yn ogystal â chefnogi ein lles cyffredinol. Mae lleoliad ein cartrefi a’n busnesau yn gallu effeithio ar ansawdd yr aer a anadlwn a’r dŵr a ddefnyddiwn bob dydd. Gall y ffordd y caiff ein cymunedau eu cynllunio gael effaith wirioneddol ar ein hiechyd a’n lles. Mae’n bwysig meddwl am y pethau hyn wrth gynllunio ein cymdogaethau, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fyw bywyd iach a boddhaus. Mae’r bwletin hwn yn cynnwys erthyglau sy’n ymdrin â mentrau, polisïau neu raglenni cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n ymwneud â gwella iechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y cymunedau hynny yr effeithir arnynt yng Nghymru.