E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Bioamrywiaeth a’i rôl wrth greu cymunedau iach a chynaliadwy
Mae bioamrywiaeth iach yn cynnal aer a dŵr glân, yn helpu i dyfu bwyd, ac yn ein hamddiffyn rhag afiechydon. Ond mae bioamrywiaeth yng Nghymru mewn cyflwr o ddirywiad. Mae diogelu natur a bioamrywiaeth yn gyfrifoldeb a rennir—boed hynny drwy bolisïau sefydliadol, mentrau cymunedol neu weithredu gan unigolion.