Neidio i'r cynnwys

E-fwletin Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru: Addysg yng Nghymru

Mae addysg dda yn angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant, a gall gynyddu ein cyfleoedd i fyw bywyd hir ac iach. Yn eu tro, gall ein hiechyd a’n llesiant effeithio ar ein gallu i ddysgu. Mae addysg yn darparu’r sgiliau, y priodoleddau a’r wybodaeth sydd eu hangen i sicrhau swyddi da a chymryd rhan mewn cymdeithas. Yn yr e-fwletin hon, mae gennym amrywiaeth o erthyglau ar fentrau, polisïau a rhaglenni cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, sydd â’r nod o wella neu ychwanegu at addysg yng Nghymru.