Neidio i'r cynnwys

Cymorth gweledol rhaglen dal i fyny ddetholus y brechlyn farisela (brech yr ieir)

Cymorth gweledol ac algorithm cymhwysedd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Cefndir

Mae GIG Cymru yn cynnig rhaglen dal i fyny farisela (brech yr ieir) ddetholus â chyfyngiad amser gan ddefnyddio’r brechlyn MMRV cyfun. Mae hyn i helpu i ddiogelu plant cymwys rhag haint brech yr ieir.

Mae plant a aned rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Awst 2022 yn cael cynnig un dos o’r brechlyn MMRV. Roedd y plant hyn yn rhy hen i gael cynnig y brechiad brech yr ieir rheolaidd pan gafodd ei gyflwyno i amserlen imiwneiddio plant Cymru yn gynharach eleni.

Os nad yw’r plant hyn wedi cael haint brech yr ieir nac wedi cael eu brechu yn erbyn brech yr ieir, maent mewn perygl o gael yr haint.