Cwrs e-ddysgu Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs)
Disgrifiad:
Nod y cwrs hwn, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Fferylliaeth Arbenigol y GIG (SPS), yw cefnogi gweithwyr a sefydliadau gofal iechyd proffesiynol sy’n ystyried, datblygu, awdurdodi a defnyddio cyfarwyddiadau grwpiau cleifion (PGDs) i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ymarfer meddyginiaethau NICE (MPG2).
Yn addas ar gyfer:
Staff y GIG sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno rhaglenni brechu.
Hyd:
40 munud
Cofrestru:
Gall staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy’r Cofnod Staff Electronig (ESR).
I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs trwy ESR, cliciwch y ddolen isod:
Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair ar staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu staff sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru er mwyn gallu cael mynediad at wefan Dysgu@Cymru.
I ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch â Desg Gymorth eAteb ar [email protected], neu ffoniwch 02920 905444, neu gallwch sgwrsio’n fyw ar y wefan. Dywedwch wrthym beth yw eich enw, teitl eich swydd a’ch gweithle a bydd cyfrif yn cael ei greu ar eich cyfer. Os oes gennych gyfeiriad e-bost sy’n gorffen gyda .ac.uk neu .gov.uk, cliciwch ar y ddolen isod i hunan-gofrestru.