Canllawiau dadlygru cemegol ar gyfer byrddau iechyd
Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor i Fyrddau Iechyd yng Nghymru ar gynllunio, paratoi ar gyfer, a rheoli cleifion sydd wedi’u halogi’n gemegol. Mae’n disgrifio sut i reoli cleifion sydd wedi dioddef halogiad cemegol yn dibynnu ar y math o halogiad (cawstig neu ddim yn gawstig). Mae hyn yn adlewyrchu’r newidiadau mwyaf diweddar i ganllawiau JESIP ar ‘Ddigwyddiadau yr Amheuir eu bod yn Cynnwys Sylweddau Peryglus neu Ddeunyddiau CBYN’ (Saesneg yn unig). Rhoddir sylw i’r egwyddorion a’r trefniadau allweddol sydd eu hangen i ymateb i ddigwyddiadau o’r fath a darperir dolenni at ffynonellau allweddol o wybodaeth a deunyddiau y gellir eu defnyddio i ddiweddaru cynlluniau a hyfforddi staff.