Canllaw i frechiadau i bobl aganabledd dysgu
Rhan 1: Ynglŷn â brechiadau
Mae’r canllaw Hawdd ei Ddarllen hwn yn helpu pobl ag anabledd dysgu i ddeall beth yw brechlynnau, sut maent yn gweithio, pam eu bod yn bwysig, a beth i’w ddisgwyl wrth gael brechlyn – gan gynnwys y gefnogaeth sydd ar gael cyn, yn ystod, ac ar ôl yr apwyntiad.
Rhan 2: Cael brechlyn
Mae Rhan 2 yn disgrifio’r broses o gael brechiad, gwybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin ac enghreifftiau o addasiadau rhesymol.
Cafodd y fideo yma a’r canllaw Hawdd ei Ddarllen eu gwneud gyda phobl ag anabledd dysgu. Mae’r fideo a’r canllaw yn seiliedig ar wybodaeth a ddysgwyd gennym gan bobl ag anabledd dysgu, eu gofalwyr, a sefydliadau cefnogi.
Mae’r fideo’n dangos person a’i ofalwr yn ymweld â’u meddygfa i gael brechiad y ffliw. Mae’n rhoi enghreifftiau o’r addasiadau rhesymol y gallwch chi ofyn amdanyn nhw i’ch cefnogi i fynd i’ch apwyntiad, fel apwyntiad dwbl, a help gyda gorbryder am nodwyddau.
Trawsysgrif – Cael brechlyn
Stori Rachel – cael brechlyn
Rachel: A, dwi wedi cael llythyr oddi wth y meddyg. Ond beth mae o’n ei feddwl?
Gofalwr: Ga i weld? O, o ie, mae hwn am y brechlyn am ffliw, a bydd yn rhaid i ni wneud apwyntiad.
Rachel: Ocê. Iawn.
Gofalwr: Wyt ti am i mi ddarllen hyn?
Rachel: Ie, plîs.
Llais sylwebydd: Mae Rachel wedi cael gwahoddiad i gael ei brechlyn ffliw. Fel pob oedolyn ag anabledd dysgu, mae’n gallu cael brechlyn ffliw am ddim bob blwyddyn yn yr hydref. Gall Rachel gael ei gwahodd am frechlynnau eraill hefyd, ar amseroedd eraill, yn dibynnu ar bethau fel ei hoed a’i hiechyd.
Gofalwr: Helo, dwi’n ofalwr am rywun sydd gydag anabledd dysgu, a dwi angen gwneud apwyntiad ar gyfer y brechlyn ffliw.
Llais sylwebydd : Cyn trefnu ei hapwyntiad brechlyn, fe wnaeth Rachel a’i gofalwr siarad am bethau fyddai’n ei gwneud hi’n haws iddi gael ei brechlyn ffliw. Mae’r rhain yn cael eu galw yn addasiadau rhesymol.
Mae addasiadau rhesymol yn newidiadau y mae’n rhaid i wasanaethau eu gwneud er mwyn i bawb allu eu defnyddio. Mae’r rhain yn gallu bod yn bethau fel cael apwyntiad ar amser mwy tawel o’r dydd neu gofyn i beidio â chael eich cadw i aros yn rhy hir.
Mae’n bwysig trefnu’r rhain cyn eich apwyntiad.
Derbynnydd: Haia. Sut galla i helpu?
Rachel: Prynhawn da. Fy enw i yw Rachel Jones. Mae gen i apwyntiad am ddau o’r gloch.
Derbynnydd: Ie, mae gennych apwyntiad yma. Mae ‘da ni apwyntiad fydd yn rhoi tipyn bach mwy o amser. A jyst rhoi gwybod i ti, os wyt ti moyn mynd â gofalwr efo ti, mae hynny’n iawn.
Rachel: Iawn.
Derbynnydd: Os cymerwch chi sêt byddan nhw’n galw chi i mewn.
Rachel: Ocê. Diolch yn fawr.
Derbynnydd: Diolch.
Nyrs: Rachel Jones?
Rachel: Ie. Dyma fi.
Nyrs: Helo Rachel. Ydych chi eisiau dilyn fi?
Rachel: Ie, iawn.
Nyrs: Helo Rachel. Hawys ydw i.
Rachel: Helo.
Nyrs: Da chi wedi dod am y brechlyn ffliw heddiw?
Rachel: Ydw.
Nyrs: Gwych. Gawsoch chi gyfle i fynd trwy’r wybodaeth ddaeth gyda’r llythyr.
Rachel: Do. Wnes i ddarllen trwyddo gyda fy ngofalwr i.
Nyrs: Gwych. Ydych chi’n teimlo’n iach heddiw?
Rachel: Ydw diolch.
Nyrs: Oes gennych chi unrhyw alergedd?
Rachel: Penicillin.
Nyrs: Ocê. Mae hynny’n iawn. Ac ydych chi wedi cael y brechlyn ffliw o’r blaen?
Rachel: Ydw.
Nyrs: Oeddech chi’n teimlo’n ocê ar ei ôl e?
Rachel: Ges i fraich bach yn dost ac roeddwn i’n fwy blinedig nag arfer.
Nyrs: Ocê. Mae hynny’n gallu digwydd. Rydyn ni’n gweld hyn yn aml. ‘Dy ni’n galw’r symptomau yma yn sgil-effeithiau. Nid yw pawb yn eu cael nhw. Ond fel arfer, ar ôl y brechlyn, gall pobl deimlo’n flinedig, poen yn y fraich am ddau neu dri diwrnod ar ôl. Mae rhai pobl yn gallu cael cur pen a chyhyrau’n poeni hefyd. Hefyd mae rhai pobl yn gallu cael tymheredd.
Rachel: Beth ydw i’n wneud os bydd rhain yn digwydd i mi?
Nyrs: Felly, os ydych chi yn cael y sgil-effeithiau yma, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gorffwys, yfed digon o ddŵr, a hefyd gallwch chi gymryd moddion fel paracetamol i helpu.
Rachel: Iawn, diolch.
Nyrs: Dyw’r sgil-effeithiau yma ddim yn neis iawn ond dylen nhw ond para dau neu dri diwrnod. Ond os ydych chi yn poeni amdanyn nhw, neu os ydyn nhw’n gwneud i chi deimlo’n sâl neu’n para mwy na tri diwrnod, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn ôl i’n gweld ni.
Rachel: Iawn, diolch.
Nyrs: Ocê. Wyt ti’n hapus i gario ymlaen?
Rachel: Ydw, ond rydw i’n ofni’r pigiad.
Nyrs: Ocê. Mae llawer o bobl yr un peth. Paid â phoeni. Mae’n broses cyflym iawn. Rydyn ni’n rhoi’r brechlyn ar dop y fraich a bydd e drosodd mewn chwinciad.
Rachel: Iawn.
Nyrs: Fydd e’n helpu os gwna i guddio’r pigiad oddi wrthot ti, a ‘falle, pan fyddwn ni’n barod, gallet ti edrych bant at dy ofalwr?
Rachel: Iawn.
Nyrs: Ocê. Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? ‘Chi’n barod?
Rachel: Ydw, dwi’n barod.
Nyrs: Gwych.
Llais sylwebydd: Gan nad ydy Rachel yn hoffi nodwyddau, mae yna bethau mae hi’n gallu gofyn amdanyn nhw i helpu gyda hyn.
Fel addasiadau rhesymol mae hi’n gallu gofyn am beidio ag edrych ar y nodwydd, gofyn am eli sy’n tynnu’r teimlad o’r croen neu fynd â rhywbeth gyda hi i dynnu ei sylw fel cerddoriaeth neu bêl straen.
Nyrs: Reit, dyna ni ‘te, wedi gorffen. Ydych chi’n teimlo’n ocê?
Rachel: Ydw, dwi’n iawn.
Nyrs: Oes gennych chi ragor o gwestiynau?
Rachel: Nac oes.
Nyrs: Gwych. Dyna ni, ‘te. Wnawn ni’ch gweld chi cyn hir.
Rachel: Iawn. Diolch.
Llais sylwebydd: Mae brechlynnau yn un o’r ffyrdd gorau i’ch cadw chi, a’r bobl o’ch cwmpas, yn ddiogel rhag mynd yn sâl iawn o glefydau fel y ffliw a COVID-19.
Mae mwy o wybodaeth ar gael i’ch helpu i gael eich brechlyn. Gallwch ddarllen ein canllaw Hawdd ei Ddeall neu mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.