Neidio i'r cynnwys

Cael eich brechu rhag clefyd niwmococol

Gwybodaeth i oedolion hŷn a phobl sy’n wynebu risg

Clefyd niwmococol yw’r enw ar grŵp o heintiau a achosir gan germ o’r enw niwmococws. Gall yr heintiau hyn fod yn ysgafn, fel heintiau sinws neu haint yn y glust, ond mae rhai yn ddifrifol iawn ac yn gallu arwain at:

  • Niwmonia – haint yn eich ysgyfaint.
  • Sepsis – ymateb i haint sy’n peryglu bywyd ac yn gallu niweidio’ch corff cyfan.
  • Llid yr ymennydd – chwydd o amgylch eich ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, sy’n gallu achosi problemau iechyd hirdymor neu farwolaeth.

Mae’n bosibl y byddwch chi neu’ch plentyn mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn o glefyd niwmococol os ydych chi:

  • Yn 65 oed neu hŷn.
  • Yn ddwy oed neu’n hŷn ac â chyflwr iechyd
    hirdymor penodol.
  • Yn dod i gysylltiad rheolaidd â mwg metel yn y gwaith.
  • Yn profi digartrefedd.

Mae’r brechlyn niwmococol yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, caiff ei fonitro’n barhaus o ran pa mor ddiogel ydyw.

Gallwch chi helpu i amddiffyn eich hun neu’ch plentyn trwy gael y brechlyn niwmococol. Cysylltwch â’ch meddyg teulu i wirio a ydych chi’n gymwys.