Brechiad Meningococol Grŵp B (MenB) i bobl ifanc
Mae’r daflen hon ar gyfer pob person ifanc a anwyd rhwng 01/09/2007 a 31/08/2008 (17/18 oed) ac unrhyw un a anwyd ar neu ar ôl 21/07/2001 (syn troi’n 25 ar ôl 21/07/2026) a fydd yn dechrau mewn prifysgol neu rai lleoliadau addysg bellach preswyl am y tro cyntaf yn nhymor yr hydref 2026.
Rhaglen frechu dros gyfnod cyfyngedig yw hon i’ch helpu i’ch amddiffyn rhag haint meningococol grŵp B (MenB). Gall haint MenB achosi clefyd meningococol sy’n peryglu bywyd.