Uned Cemotherapi Gwrthficrobaidd Arbenigol (SACU)
Mae’r Uned Cemotherapi Gwrthficrobaidd Arbenigol (SACU) yn darparu’r gwasanaeth cyfeirio ymwrthedd gwrthficrobaidd i Gymru, gan gynnig dull pennu mecanwaith ymwrthedd ac arweiniad therapiwtig.
SACU hefyd yw labordy Profi Cymdeithas Cemotherapi Gwrthficrobaidd Prydain (BSAC), gan gydweithio â’r Pwyllgor Ewropeaidd ar Brofi Rhagdueddiad Gwrthficrobaidd (EUCAST) i ddatblygu dulliau a mannau brigo trylediad disg EUCAST. Mae’r uned hefyd yn darparu cyngor arbenigol ar brofi rhagdueddiad o labordai ledled y DU, yn ogystal â threfnu 2 weithdy 3 diwrnod a 2 gynhadledd undydd bob blwyddyn.
Mae ochr ymchwil yr uned yn cydweithio â llawer o sefydliadau academaidd a busnesau masnachol ar dreialon ac astudiaethau clinigol ledled Ewrop, gan weithredu fel y labordy canolog. Mae treialon ac astudiaethau clinigol yn canolbwyntio ar leihau’r defnydd o wrthfiotigau mewn gofal sylfaenol; gan ddefnyddio arbenigedd SACU mewn microbioleg a chanfod ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae’r uned yn cynnig gwerthusiad a dilysu gwrthficrobaidd newydd ar gyfer cynhyrchion masnachol.
Cysylltwch â ni
Cyfeiriadau o’r tu allan i Gymru
Tabl cynnwys:
- Cyfeiriadau o'r tu allan i Gymru
- Cyfeiriadau o fewn rhwydwaith Cymru
- Gwasanaethau Cyfeirio SACU 2023
- Amseroedd cwblhau (TATs) gwasanaeth cyfeirio SACU 2023
- Gwyliadwriaeth Dargedig (SACU 2021)
- Treialon Clinigol
- Astudiaethau BSAC ac EUCAST (2021)
- Dolenni Defnyddiol
- Prosiect Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Theipio GENomig (ARGENT)
- Gwybodaeth bellach
- Adnoddau
- Adroddiadau
- Data
Cyfeiriadau o fewn rhwydwaith Cymru
Gwasanaethau Cyfeirio SACU 2023
Amseroedd cwblhau (TATs) gwasanaeth cyfeirio SACU 2023
| Amseroedd cwblhau (TATs) ar gyfer cyhoeddi adroddiad | Dyddiau gwaith |
|---|---|
| Profi i gadarnhau rhagdueddiad neu benderfynu ar fecanwaith ymwrthedd | 2 – 10 |
| Profi rhagdueddiad ychwanegol (trwy stribed graddiant neu wanhau microhylif) | 2 – 14 |
| Profi cyfunol | 5 – 17 |
| Cadarnhau ymwrthedd glycopeptid yn S. aureus (hGISA/GISA) | 5 – 17 |
| Cnafod Panton Valentine Leucocidin (PVL) drwy RT-PCR yn Staphylococcus aureus | 2 – 10 |
| Canfod mecA a mecC drwy RT-PCR mewn rhywogaethau Staffylococws | 2 – 10 |
| Canfod vanA a vanB drwy RT-PCR mewn rhywogaethau Enterococws | 2 – 10 |
| Canfod genynnau MCR (ymwrthedd i golistin symudol) gan RT-PCR mewn rhywogaethau Enterobacterales | 2 – 10 |
Gwyliadwriaeth Dargedig (SACU 2021)
Astudiaeth gwyliadwriaeth dargedig 3GC Cymru gyfan
Ymwrthedd Cephalosporin 3ydd Genhedlaeth yng Nghymru 2008
Ymwrthedd Cephalosporin 3ydd Genhedlaeth yng Nghymru 2014
Treialon Clinigol
Mae SACU yn darparu gwasanaethau labordai canolog a rolau prif ymchwilydd i nifer o dreialon clinigol, yn y DU ac yn Ewrop.
Rydym yn cydweithio â llawer o sefydliadau ar dreialon clinigol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar leihau presgripsiynu gwrthficrobaidd neu ymyriadau newydd i leihau presgripsiynu.
Rydym yn darparu prosesu samplau cynradd, profion rhagdueddiad, canfod a nodweddu mecanweithiau ymwrthedd gwrthficrobaidd, dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau.
Mae’r treialon clinigol canlynol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd yn SACU:
Astudiaeth MenB
Mae’r astudiaeth hon mewn cydweithrediad â Grŵp Brechlynnau Prifysgol Rhydychen, a’i nod yw gwerthuso effaith imiwneiddio yn erbyn meningococws grŵp B ar gludo meningococol.
Mae SACU a Diogelu Iechyd o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydweithio â chanolfannau eraill ledled y DU trwy gasglu a phrosesu swabiau gwddf gan oedolion ifanc.
Mae SACU yn prosesu ac yn cadarnhau presenoldeb Neisseria meningitidis, y bacteriwm sy’n darged ar gyfer brechlyn menB ac sy’n gyfrifol am lid yr ymennydd.
Mae’r astudiaeth yn cwmpasu’r blynyddoedd 2018-2021, gyda dau gyfnod casglu yn y gwanwyn a’r hydref. Am ragor o wybodaeth: https://beontheteam.web.ox.ac.uk/
Adolygiad o ymwrthedd Mupirocin yn S. aureus
Astudiaeth a fydd yn adolygu faint o ymwrthedd mupirocin sydd mewn S. aureus gan 200 o gleifion ledled De Ddwyrain Cymru, yn dilyn newid yn yr arfer ar gyfer hemodialysis.
Astudiaethau Masnachol ac Ymchwil
Mae gan SACU fwy na 15 mlynedd o arbenigedd mewn profi rhagdueddiad, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ac mae wedi gweithio gyda sawl partner masnachol i ddatblygu a dilysu gwrthficrobau newydd ac amrywiaeth o brofion rhagdueddiad. Mae’r gwasanaethau gwerthuso a ddarperir gan SACU yn amrywio o rai sylfaenol i rai pwrpasol.
Mae SACU yn dal casgliad mawr o arunigion Gram-negatif a Gram-bositif sy’n berthnasol yn glinigol (e.e. Enterobacteriales, Pseudomonas, Acinetobacter, Stenotrophomonas, Burkholderia, Staffylococi, Enterococi, Streptococi).
Mae’r casgliad yn cynnwys arunigion a adferwyd o garfannau o gleifion a senarios clinigol (e.e. ffibrosis systig, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), UTI ac ati) ac amrywiol fecanweithiau ymwrthedd (e.e. ESBL, ampC, carbapenemase, hGISA, VRE, ac ati).
Cynigir profion rhagdueddiad gwrthficrobaidd trwy ficrowanhau hylif (BMD), gwanhau agar, stribedi graddiant a thrylediad disg EUCAST safonol. Mae arbenigedd mewn dulliau mwy seiliedig ar ymchwil, gan gynnwys profi synergedd gan ddefnyddio cromliniau lladd dros amser a thechnegau bwrdd draffts, yn ogystal â phrofi diheintydd gan ddefnyddio profion daliant hefyd ar gael.
Gellir pennu mecanwaith ymwrthedd gan ddefnyddio dulliau ffenoteipaidd sy’n seiliedig ar atalyddion, yn ogystal â thrwy ddadansoddiad genoteipaidd trwy Adwaith Cadwynol Polymerasau (PCR) safonol ac amser real. Mae dadansoddiad Dilyniant Genom Cyfan (WGS) yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i’w ddefnyddio yn y dyfodol agos.
Gall SACU werthuso’r canlynol:
- Stribedi a disgiau graddiant ar gyfer cyfryngau newydd.
- Dulliau profi rhagdueddiad newydd.
- Technegau newydd.
- Technegau cyflym.
- Offerynnau profi rhagdueddiad masnachol.
- Gwrthficrobau newydd.
- Gwerthusiad gwrthfacterol sylfaenol o gyfansoddion anhysbys.
- Treialon Cyfnod I.
- Penderfynu ar fecanwaith ymwrthedd.
- Dulliau ffenoteipaidd.
- Dulliau genoteipaidd
- Offerynnau masnachol.
Cysylltwch â Dr Mandy Wootton drwy e-bost neu ffôn am fwy o fanylion:
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 029 20 743 610
Astudiaethau BSAC ac EUCAST (2021)
SACU yw Labordy Profi Rhagdueddiad Cymdeithas Cemotherapi Gwrthficrobaidd Prydain (BSAC) ar gyfer y DU, sy’n darparu cyngor ar bob agwedd ar ddulliau a chanllawiau EUCAST. Mae’r uned hefyd yn darparu cyngor ar faterion profi ansawdd afreolaidd a gwirio wrth weithredu dulliau trylediad disg EUCAST.
Mae SACU yn cydweithio â Labordy Datblygu EUCAST ar nifer o astudiaethau i ddatblygu canllawiau trylediad disg ar gyfer cyfryngau a bacteria newydd. Mae gwaith diweddar wedi canolbwyntio ar ddarllen canllawiau ar brofion cyfeirio Nocardia ynghyd â phrofion rhagdueddiad Stenotrophomonas a Burkholderia.
Ar hyn o bryd mae’r uned yn gweithio gyda labordai cyfeirio eraill ar ddatblygu dulliau trylediad disg ar gyfer rhywogaethau Neisseria a bacteria anaerobig, gydag is-bwyllgor EUCAST yn cael ei ffurfio ar gyfer yr olaf. Mae’r uned hefyd wedi darparu data yn ddiweddar ar gyfer ymestyn mannau brigo clinigol ar gyfer nitrofurantoin a mecillinam i Enterobacteriales atodol, heblaw’r rhai a nodir yn nhabl mannau brigo EUCAST.
http://bsac.org.uk/ & http://eucast.org/
Cydweithrediadau BSAC eraill
Yn ddiweddar, bu SACU yn gweithio ochr yn ochr â’r Sefydliad Gwyddoniaeth Fiofeddygol (IBMS) i adolygu’r portffolio Arbenigol mewn microbioleg feddygol. Mae’r adran profi rhagdueddiad gwrthficrobaidd (7.9) wedi’i diweddaru i adlewyrchu arferion a dulliau cyfredol. Mae prawf disg safonol EUCAST yn rhan amlwg, gydag adrannau wedi’u diweddaru ar fecanweithiau ymwrthedd sy’n berthnasol ar hyn o bryd.
Mae SACU hefyd yn gweithio gyda grŵp Safonau Ymchwilio i Ficrobioleg (SMI) y DU i drafod y cyfryngau gwrthficrobaidd ar gyfer profi mewn labordai diagnostig.
Hyfforddiant a Chyrsiau
Fel rhan o labordy profi rhagdueddiad BSAC ar gyfer y DU, mae SACU yn cynnal dau Gwrs Preswyl 3 diwrnod a dwy gynhadledd undydd i ddefnyddwyr bob blwyddyn.
Gweithdai preswyl Profi Rhagdueddiad BSAC (3 diwrnod)
Mae gweithdy BSAC yn gwrs dwys 3 diwrnod (gan gynnwys hyfforddiant labordy) sy’n anelu at ddarparu:
- Gwybodaeth am ddulliau profi rhagdueddiad trylediad disg EUCAST
- Trosolwg o ddulliau profi rhagdueddiad eraill
- Dealltwriaeth o sut i brofi organebau anodd
- Trosolwg o fecanweithiau ymwrthedd perthnasol
- Gwybodaeth am sut i ddatrys problemau profi rhagdueddiad
- Gwybodaeth i wella gwaith adrodd am ragdueddiad lleol
- Gwybodaeth am sut i ganfod mecanweithiau cyffredin ymwrthedd gwrthficrobaidd a throsolwg o dechnoleg newydd mewn microbioleg
Lleoliad: Cynhelir y gweithdai yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Amser: Maent yn digwydd bob mis Mawrth/Ebrill (yr wythnos cyn y Pasg) ac Awst (yr wythnos cyn gŵyl banc mis Awst).
Cyfeiriwch at wefan BSAC am fwy o fanylion a chofrestru.
Cynadleddau undydd Diwrnod y Defnyddwyr BSAC
Mae SACU yn cynnal dwy gynhadledd undydd bob blwyddyn mewn gwahanol leoliadau ledled y DU. Nod y gynhadledd yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cynrychiolwyr am ymwrthedd newydd, problemau profi rhagdueddiad, diweddariadau mewn dulliau profi a heintiau sy’n anodd eu trin.
Mae hefyd yn gyfle i drafod materion profi rhagdueddiad sy’n effeithio ar labordai ledled y DU.
Lleoliad: Cynhelir cynadleddau Diwrnod y Defnyddwyr mewn gwahanol leoliadau ledled y DU
Amser: Fel arfer, cynhelir diwrnodau’r defnyddwyr ym mis Mehefin a mis Hydref bob blwyddyn.
Cyfeiriwch at wefan BSAC am fwy o fanylion a chofrestru.
Dolenni Defnyddiol
Pwyllgor Sefydlog BSAC ar Brofi Rhagdueddiad
Prosiect Gwyliadwriaeth Ymwrthedd BSAC
Pwyllgor Ewropeaidd ar Brofi Rhagdueddiad Gwrthficrobaidd (EUCAST)
Dosbarthiadau diamedr MIC / Parth ac ECOFFs EUCAST
Labordy Cyfeirio Heintiau sy’n Gysylltiedig ag Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Gofal Iechyd (AMRHAI)
Gwyliadwriaeth Ewropeaidd ar Ddefnydd Gwrthficrobaidd (ESAC)
System Gwyliadwriaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Ewropeaidd (EARSS)
Therapi Gwrthficrobaidd Parenterol Cleifion Allanol
Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Methodoleg Ystadegau Cyffuriau
Prosiect Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Theipio GENomig (ARGENT)
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd wedi’i nodi fel pryder allweddol i iechyd y cyhoedd, gyda heintiau a achosir gan Organebau sy’n Gwrthsefyll Cyffuriau Lluosog (MDRO) yn peri bygythiad sylweddol i ganlyniad cleifion ac i reoli lleoliadau gofal iechyd. Mae organebau Gram-negatif sy’n ymwrthod carbapenem yn destun pryder arbennig gan eu bod yn gysylltiedig fwyfwy ag achosion mewn ysbytai.
Gall yr achosion hyn gael eu hachosi gan ledaeniad uniongyrchol organebau sy’n gysylltiedig yn agos neu gallant gynnwys rhannu sawl genyn ymwrthedd, a gludir gan elfen genetig symudol, rhwng bacteria anghysylltiedig; o ganlyniad, gall bacteria sensitif gaffael ymwrthedd i lawer o wrthfiotigau gwahanol trwy gaffael elfen symudol yn unig.
Yn ystod brigiad o achosion mae’n hanfodol casglu gwybodaeth yn gyflym am berthnasedd gwahanol arunigion a’r elfen symudol maen nhw’n ei chario. Mae technolegau dilyniannu newydd bellach yn caniatáu datrys dulliau trosglwyddo yn well ac felly’n arwain strategaethau i atal heintiau rhag lledaenu ymhellach. Yn ogystal, gall dilyniannau genom cyflawn organebau sy’n achosi brigiad o achosion ddatgelu darlun mwy manwl am y gronfa o benderfynyddion ymwrthedd na’r dulliau presennol.
Nod prosiect ARGENT yw datblygu gwasanaeth teipio sy’n seiliedig ar genomeg i gefnogi ymchwiliadau i frigiad o achosion mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru. Canolbwyntiodd yr ychydig flynyddoedd cyntaf ar Acinetobacter baumannii sy’n gwrthsefyll carbapenem, Pseudomonas aeruginosa ac Enterococi sy’n gwrthsefyll vancomycin.
Er nad yw’r gwasanaeth yn gwbl weithredol eto, mae eisoes wedi cefnogi ymchwiliadau diweddar frigiad o achosion ledled Cymru. Fel rhan o’r prosiect, mae arunigion bacterol cynrychioliadol o feithriniad gwaed (ac eithrio Staffylococi coagulase-negatif ac anaerobau) bellach yn cael eu dilyniannu er mwyn nodi straeniau (waeth beth fo’u proffil ymwrthedd i wrthfiotigau), a allai ledaenu ar draws gwahanol leoliadau gofal iechyd. Anogir pob labordy ledled Cymru i gyflwyno arunigion meithriniad gwaed am flwyddyn gan ddefnyddio’r ffurflen.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn