Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil mewn Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo ac Iechyd y Cyhoedd

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 21ain Hydref 2026

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Cefndir


Mae niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn broblem iechyd y cyhoedd sylweddol yng Nghymru a gall effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a’r gymdeithas ehangach. Gall niwed effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol, llesiant ariannol, perthnasoedd, cyflogaeth, addysg a thai. Er bod ymwybyddiaeth o’r niwed hwn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae bylchau pwysig yn y dystiolaeth o hyd ynghylch nodi, atal a lleihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.

Yr hyn a wnaethom

Er mwyn cefnogi ymchwil, polisi ac ymarfer yn y dyfodol, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru weithdy blaenoriaethu ymchwil ar-lein dan arweiniad rhanddeiliaid. Roedd wedi’i lywio gan dystiolaeth Cymru a’r DU, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid arbenigol ac egwyddorion cydnabyddedig ar gyfer pennu blaenoriaethau ymchwil iechyd.

Yr hyn a ganfuom


Drwy’r broses hon, nodwyd pum maes o ddiddordeb ymchwil ar gyfer ymchwil i niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru, gan adlewyrchu blaenoriaethau a rennir rhanddeiliaid a meysydd allweddol ar gyfer ymchwil bellach:

  1. Amgylcheddau digidol a masnachol
  2. Atal a rheoleiddio ar lefel y boblogaeth
  3. Anghydraddoldebau Iechyd a Phoblogaethau sy’n Agored i Niwed
  4. Ymyrraeth gynnar ar draws cwrs bywyd
  5. Ymateb systemau, triniaeth ac adferiad

Lawrlwythiadau adroddiadau

Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil mewn Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo ac Iechyd y Cyhoedd

PDF, 480KB

Llawrlwytho PDF - Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil mewn Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo ac Iechyd y Cyhoedd (480 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig