Meddwl trwy systemau ym maes Iechyd y Cyhoedd
Beth yw meddwl trwy systemau?
Mae llawer o heriau iechyd y cyhoedd, fel iechyd meddwl gwael, gordewdra, cyflyrau hirdymor a newid hinsawdd, yn cael eu dylanwadu gan lawer o ffactorau cysylltiedig. Mae meddwl trwy systemau yn ein helpu i ddeall y cysylltiadau hynny ac i weithio gyda phartneriaid i sicrhau gwelliannau parhaol mewn iechyd a llesiant ledled Cymru.
Gall meddwl trwy systemau ein helpu i feddwl am y darlun mwy. Mae’n debyg iawn i sut mae meddyg yn gweld y tu hwnt i symptomau claf ac yn ystyried ei fywyd cyfan, neu arddwr yn ystyried yr amodau yn yr amgylchedd o gwmpas planhigyn. Rydym yn edrych ar y cydberthynasau rhwng rhannau o’r system, ac yn meddwl am ble mae pobl yn byw, lefel eu hincwm a sut y gallai eu mynediad at drafnidiaeth ryngweithio i effeithio ar eu hiechyd.
Gall meddwl trwy systemau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gynnwys:
- dod â phobl o wahanol sectorau a chefndiroedd ynghyd i ddeall gwahanol safbwyntiau ar fater
- bod yn glir ynghylch yr hyn sydd wedi’i gynnwys a’r hyn sydd wedi’i eithrio mewn ymyriad (dyfarniadau ynghylch ffiniau – boundary judgements)
- archwilio achosion sylfaenol problemau
- deall y cysylltiadau rhwng gwahanol rannau o system
Wrth ddefnyddio meddwl trwy systemau i wneud gwelliannau, mae’n rhaid i ni wneud amser ar gyfer myfyrio, dysgu ac addasu parhaus. Mae materion cymhleth yn anrhagweladwy, a phan fyddwn yn ymyrryd i wneud gwelliannau, nid ydym bob amser yn gwybod beth fydd canlyniad ein camau gweithredu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wirio a yw ein hymyriad yn cael yr effaith a fwriadwyd ac ymateb yn unol â hynny.
Drwy ddefnyddio meddwl trwy systemau rydym hefyd yn defnyddio pum Ffordd o Weithio (egwyddor datblygu cynaliadwy) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru – Integreiddio, Atal, Cydweithio, Meddwl Hirdymor a Chynnwys.
Pam mae angen meddwl trwy systemau?
Mae gwella canlyniadau iechyd yn aml yn gymhleth. Mae ein hiechyd yn cael ei lunio gan lawer o ffactorau; o’r addysg a gawn i b’un a oes gennym swydd sy’n talu digon i dalu’r biliau.
Blociau adeiladu iechyd yw’r pethau sydd eu hangen ar bob un ohonom i fod yn iach, fel cartrefi cynnes, gwaith da, cymdogaethau diogel gyda mannau gwyrdd a rhwydwaith cymorth da.
Er mwyn cyflawni blaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae angen i ni ddylanwadu’n rheolaidd ar lawer o’r blociau adeiladu hyn ar unwaith er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau cymhleth sy’n wynebu Cymru, o iechyd meddwl gwael mewn rhai pobl ifanc i glefydau anhrosglwyddadwy (megis clefyd cardiofasgwlaidd a chanser) ac addasu i newid hinsawdd.
Mae mynd i’r afael â’r heriau cymhleth hyn yn gofyn am ddod â phartneriaid o bob sefydliad a sector ynghyd i gydweithio, gan greu gweledigaeth gyffredin ar gyfer sut yr ydym am wella bywydau ein cymunedau yng Nghymru ac edrych ar y cysylltiadau rhwng y blociau adeiladu iechyd hyn. Er enghraifft, mae pobl ag iechyd meddwl gwael hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau anhrosglwyddadwy [i].
Mae gweithio gyda’r cymhlethdod hwn yn golygu bod yn rhaid i ni weld y darlun llawn yn hytrach na chanolbwyntio ar rannau unigol. Rhaid i ni ddatblygu cynlluniau hirdymor sydd hefyd yn gallu addasu i gyd-destun sy’n newid. Rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn cynnwys safbwyntiau amrywiol, gan bartneriaid eraill ond hefyd o wahanol gymunedau ledled Cymru. Mae meddwl trwy systemau yn ffordd o feddwl a gweithio a all ein helpu i wneud hyn.
Cysyniadau cysylltiedig
Mae system yn gasgliad o rannau cysylltiedig sy’n gweithio gyda’i gilydd. Gall newidiadau i un rhan o system ddylanwadu ar sut mae’r system gyfan yn gweithio. Efallai bod gan bobl wahanol safbwyntiau ynglŷn â’r hyn y dylid ei gynnwys mewn system.
Mae dulliau meddwl trwy systemau yn cynnwys amrywiaeth o offer a dulliau y gallwn eu defnyddio i ddeall cymhlethdod a rhyngddibyniaethau materion iechyd y cyhoedd yn well. Mae rhai offer cyffredin yn cynnwys mapio systemau, lluniau cyfoethog neu’r model mynydd iâ.
Mae arweinyddiaeth systemau yn arddull arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar gydweithio a dylanwadu ar draws sawl lefel, sefydliad neu sector i fynd i’r afael â heriau cymhleth a chydgysylltiedig. Mae sbarduno ‘newid cadarnhaol’ ar raddfa eang trwy ddatblygu datrysiadau cydgysylltiedig i faterion iechyd y cyhoedd cymhleth er budd cymdeithas yn allweddol i arweinyddiaeth systemau yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd [ii].
Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio dulliau meddwl trwy systemau?
Gall unrhyw un ddefnyddio dull meddwl trwy systemau, ond o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae nifer o raglenni wedi canolbwyntio adnoddau ar ddatblygu meddwl trwy systemau ac wedi ymrwymo i fabwysiadu dull meddwl trwy systemau.
- Mae Dull Systemau Cyfan Pwysau Iach: Cymru Iach – yn cefnogi pwysau iachach drwy ail-lunio ffyrdd o weithio, polisïau ac amgylcheddau i greu datrysiadau parhaol sy’n gwneud dewis opsiynau iach yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy hygyrch.
- Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru – Wedi’i ariannu gan y Sefydliad Iechyd, gyda’r nod o geisio meithrin gallu meddwl trwy systemau mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u cefnogi i gyflawni camau gweithredu trwy eu cynlluniau llesiant.
[i] Everard, C. et al. (2025), “Exploring the relationship between non-communicable diseases and depression”, OECD Health Working Papers, No. 178, OECD Publishing, Paris, https://doi.org/10.1787/02a1cfc5-en.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn