Ymyriadau i leihau unigrwydd a ynysigrwydd cymdeithasol: map dystiolaeth
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth
Cyhoeddwyd ar: 1af Mai 2023
Disgwylir y diweddariad nesaf: Mai 2024
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Mynediad ein mapCyflwyniad
Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol mewn oedolion. Gall ffynonellau sydd wedi’u cynnwys yn y map ddarparu tystiolaeth sy’n mynd i’r afael â’r cwestiwn/cwestiynau canlynol:
- Pa ymyriadau sy’n effeithiol o ran lleihau teimladau o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith oedolion (16+ oed)?
- Pa ymyriadau sy’n effeithiol o ran cynyddu cymorth cymdeithasol canfyddedig?
Prif bwyntiau
Mae ein cyfres o mapiau tystiolaeth ddigidol wedi’u cynllunio i roi mynediad strwythuredig at gorff o dystiolaeth gyfredol, lefel uchel a chadarn ar ystod o bynciau. Maent yn cynnwys ffynonellau tystiolaeth sydd ar frig y ‘pyramid tystiolaeth’ h.y. adolygiadau systematig a gynhaliwyd yn gadarn a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Eu nod yw rhoi mynediad hawdd i ymarferwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau at ymchwil ddibynadwy a methodolegol gadarn, y gellir ei defnyddio i helpu i lywio ymarfer a gwneud penderfyniadau.
Mynediad ein mapGwybodaeth dechnegol
Gwybodaeth am fapiau tystiolaeth
Mae adolygiadau tystiolaeth a chanllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y map hwn wedi’u grwpio yn ôl y boblogaeth y maent yn canolbwyntio arni a’r math o ymyriad. Fe’u harddangosir mewn map gwres rhyngweithiol. Gall rhai adolygiadau ymddangos mewn mwy nag un categori os ydynt yn cwmpasu sawl grŵp neu ymyriad.
Rydym wedi cofnodi’r lleoliadau lle cynhaliwyd ymyriadau (er enghraifft, ysgolion neu leoliadau cymunedol) a’r canlyniadau a fesurwyd. Gallwch ddefnyddio’r hidlwyr i gulhau canlyniadau yn ôl lleoliad neu ganlyniad.
Bydd clicio ar flwch yn y map gwres yn dangos rhestr o adolygiadau neu ganllawiau perthnasol. O’r fan honno, gallwch agor tudalen crynodeb ar gyfer pob un. Mae’r crynodebau hyn yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis amcanion, darganfyddiadau a chasgliadau, wedi’u cymryd yn uniongyrchol o’r cyhoeddiad gwreiddiol. Nid ydym yn dehongli nac yn dadansoddi’r canfyddiadau hyn ein hunain. Yn hytrach rydym yn eu cyflwyno i’ch helpu i benderfynu a ddylech archwilio’r ffynhonnell lawn.
Sut mae defnyddio’r Map hwn
Mae’r map wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddod o hyd i dystiolaeth ymchwil yn gyflym sydd eisoes wedi’i dwyn ynghyd mewn ffordd yr ydym yn ei hystyried yn gadarn yn fethodolegol ac felly a allai fod yn sail fwy dibynadwy i ddechrau meddwl am lywio penderfyniadau. Gall hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol wrth ystyried tystiolaeth i lywio penderfyniadau.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi’r canlynol:
Dylech ystyried a yw’r dystiolaeth yn berthnasol i’ch cyd-destun lleol, fel Cymru.
Bod y chwiliadau a ddefnyddir i greu’r map hwn wedi’u targedu, nid ydynt yn gynhwysfawr. Nid yw’r map yn cynnwys yr holl dystiolaeth sydd ar gael.
Dylid defnyddio’r adolygiadau a ddangosir fel rhan o strategaeth ehangach ar gyfer casglu tystiolaeth ac nid eu defnyddio’n unig fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau, heb holi ac archwilio ymhellach eu cymhwysedd i Gymru.
Adroddiadau perthnasol
-
Ymyriadau i wella lles meddyliol oedolion: map dystiolaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf: Mai 2025 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff cyfoes, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar y […]
Cyhoeddwyd: 1af Mai 2024
-
Ymyriadau cynnal a gwella lles meddyliol plant a phobl ifanc hyd: map dystiolaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf: Mai 2026 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff cyfoes, lefel uchel, cadarn o dystiolaeth ar ymyriadau […]
Cyhoeddwyd: 1af Ionawr 2025
-
Ymyriadau i leihau cyfraddau hunanladdiad a hunan-niwed: map dystiolaeth
Disgwylir y diweddariad nesaf: Awst 2025 Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r map hwn yn darparu mynediad strwythuredig i gorff diweddar, cadarn o dystiolaeth eilaidd ar ymyriadau i […]
Cyhoeddwyd: 15fed Mai 2024
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025
-
Ffactorau risg ar gyfer datblygu afiechydon meddwl: adolygiad chwmpasu ystwyth
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae deall pa ffactorau all gynyddu risg pobl o ddatblygu salwch meddwl yn gam cyntaf angenrheidiol er […]
Cyhoeddwyd: 1af Mawrth 2023
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2026
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion cynradd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2026
-
Ystadegau iechyd meddwl Llywodraeth Cymru: dangosfwrdd rhyngweithiol
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 17, 2026
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025
-
Offeryn adrodd asedau iechyd
Adolygwyd ddiwethaf: