Adroddiadau a Gofynion Statudol Sefydliadau’r GIG yng Nghymru
Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol
Adrodd ar gynnydd amcanion cydraddoldeb y sefydliad a chydymffurfio â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb.
Dylid cyhoeddi’r adroddiad hwn ar wefan cyhoeddus eich sefydliad erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn adrodd flaenorol.
Gall tîm ysgrifennu hwn ar ran y sefydliad cyfan.
Am arweiniad pellach: Public Sector Equality Duty: guidance for public authorities – GOV.UK (www.gov.
Cyhoeddi Amcanion Cydraddoldeb Strategol
Rhaid i awdurdod rhestredig gyhoeddi amcanion cydraddoldeb a fydd yn ei helpu i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol. Rhaid dylunio amcanion cydraddoldeb a fydd yn arwain at berfformiad gwell o ran y ddyletswydd gyffredinol a sicrhau newid cadarnhaol.
Dylai’r amcanion hefyd allu cael eu mesur yn wrthrychol er mwyn pennu a ydynt wedi cael eu cyflawni, neu a ydynt yn cael eu cyflawni neu beidio. Mae hyn yn cydgysylltu â’r ddyletswydd i adrodd yn flynyddol ar y cynnydd y mae’r awdurdod rhestredig wedi’i wneud er mwyn cyflawni ei amcanion cydraddoldeb, ac effeithiolrwydd y camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion cydraddoldeb hynny.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: canllawiau i awdurdodau lleol – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Adroddiad Blynyddol ar y Bwlch Cyflog Rhywedd
Ers 2011, bu’n ofynnol i gyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gyhoeddi eu bwlch cyflog rhywedd a chofnodi pa gamau y maent yn eu cymryd i fynd i’r afael ag ef.
Dylid cyhoeddi’r adroddiad hwn ar wefan cyhoeddus eich sefydliad erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn a’i lanlwytho hefyd i borth Llywodraeth Cymru. Dolen: Adrodd ar eich data bwlch cyflog rhywedd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Mae gwybodaeth bellach ar gael yn:
Gender pay gap reporting: guidance for employers – GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)
Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu i Gymru – adroddiadau blynyddol
Cyflwynwyd gofynion Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (WRES) yn ystod 2023/2024 i gefnogi’r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru. Mae hyn yn darparu cysondeb wrth adrodd ar ddata cyflogaeth a phrofiadau staff ar draws sefydliadau’r GIG yng Nghymru.
Dylid cyhoeddi’r adroddiad hwn ar wefan cyhoeddus eich sefydliad a’i lanlwytho hefyd i borth Llywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth yma:
Adroddiadau Chwemisol i Lywodraeth Cymru
Mae’n ofynnol i sefydliadau’r GIG yng Nghymru adrodd ar gynnydd eu Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ebrill a mis Hydref.
Polisi Cydraddoldeb
Mae gofyniad i gael polisi.
Nid oes gofyniad statudol ar hyn o bryd yn y Ddeddf Cydraddoldeb i gael Polisi Cydraddoldeb. Fodd bynnag mae adran 3.15 y Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl yn nodi y dylai polisi cydraddoldeb a hawliau dynol fod ar waith. Mae’r Cod Ymarfer yn nodi’r canlynol:
Dylai comisiynwyr a darparwyr fod â pholisi cydraddoldeb a hawliau dynol ar waith ar gyfer darpariaeth gwasanaeth ac ymarfer mewn perthynas â’r Ddeddf, a dylai’r polisi hwn gael ei adolygu ar lefel Bwrdd (neu lefel gyfatebol) o leiaf unwaith y flwyddyn. Dylai’r polisi cydraddoldeb a hawliau dynol gynnwys y canlynol o leiaf:
- nodi sut mae’r sefydliad yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol (ac o ran comisiynwyr, deddfwriaeth yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd)
- sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei fonitro’n gadarn fel bod y sefydliad yn gallu deall yn well sut mae’r Ddeddf yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Dylai’r wybodaeth a gesglir fod ar gael i’r cyhoedd mewn modd clir a thryloyw. Dylai manylion unrhyw gamau a gymerir yng ngoleuni’r wybodaeth a gesglir fod ar gael hefyd. Dylid ystyried a all cyrff eraill gynorthwyo gydag unrhyw gamau gweithredu sy’n ofynnol
- nodi sut y bydd y sefydliad yn adolygu amgylchedd a diwylliant wardiau a’r ysbyty i sicrhau bod y sefydliad yn darparu amgylcheddau therapiwtig, bod cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch, eu bod yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau am eu gofal a’u triniaeth a bod eu diwylliant a’u hethnigrwydd yn cael eu parchu
- nodi sut y bydd y sefydliad yn cael tystiolaeth ansoddol ar brofiadau cleifion a sut y bydd yn sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei chasglu ar adeg briodol. Gallai hyn gynnwys adborth ar gyfranogiad claf mewn cynllunio gofal ac ar ei berthynas â staff a chleifion eraill
- disgrifio’r ystyriaeth a roddir i’r angen am addasiadau rhesymol, a
- nodi sut y darperir dysgu, datblygu a hyfforddiant i staff ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â hawliau dynol a’r Ddeddf Cydraddoldeb