Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cytuno ar bartneriaeth ymchwil newydd i wella iechyd yng Nghymru
Cyhoeddwyd ar: 06 Gor 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb tair blynedd newydd i gydweithio ar ymchwil a all helpu i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Bydd y cytundeb yn ei gwneud hi’n haws i’r ddau sefydliad uno arbenigedd a throi ymchwil academaidd yn gamau ymarferol ar gyfer gwasanaethau iechyd y cyhoedd, llunwyr polisi a chymunedau.
Bydd y bartneriaeth yn cefnogi gwaith ar rai o heriau iechyd y cyhoedd mwyaf Cymru, gan gynnwys atal salwch, helpu pobl i wneud dewisiadau iachach, gwella gwasanaethau a pharatoi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol.
Bydd y cytundeb yn helpu’r ddau sefydliad i wneud y canlynol:
- datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd
- gwneud ceisiadau am gyllid ymchwil ar y cyd
- rhannu gwybodaeth ac arbenigedd
- cefnogi hyfforddiant a datblygiad staff
- gwneud gwell defnydd o offer digidol, deallusrwydd artiffisial a gwyddor data
- sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu defnyddio’n ymarferol
Bydd y cydweithrediad yn canolbwyntio i ddechrau ar genomeg a gwyddor ymddygiad, tra hefyd yn cefnogi gwaith ar iechyd hinsawdd ac amgylcheddol, parodrwydd ar gyfer pandemig, arloesi digidol, polisi a datblygu’r gweithlu.
Mae’r cytundeb yn adeiladu ar flynyddoedd lawer o gydweithio a dyma’r cytundeb cyntaf ar draws y sefydliad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartner academaidd.
Dywedodd Iain Bell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r cytundeb newydd hwn yn gam pwysig i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
“Bydd yn ein helpu i gydweithio mewn ffordd fwy penodol a chydlynol, fel y gall ymchwil gefnogi camau gweithredu i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru yn well.
“Drwy ddod â’n sgiliau a’n harbenigedd ynghyd, gallwn gynhyrchu ymchwil gryfach a sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio er budd pobl yng Nghymru.”
Dywedodd yr Athro Steve Riley, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes hir o weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r cytundeb hwn yn rhoi ffordd glir inni adeiladu ar y berthynas honno.
“Mae gan ymchwil y gwerth mwyaf pan mae’n helpu i wella bywydau. Drwy gydweithio, gallwn gefnogi syniadau newydd, meithrin sgiliau a chyflawni ymchwil sy’n ymateb i’r heriau iechyd y cyhoedd sy’n wynebu Cymru.”
