Neidio i'r cynnwys

Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cytuno ar bartneriaeth ymchwil newydd i wella iechyd yng Nghymru 

Cyhoeddwyd ar: 06 Gor 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb tair blynedd newydd i gydweithio ar ymchwil a all helpu i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. 

Bydd y cytundeb yn ei gwneud hi’n haws i’r ddau sefydliad uno arbenigedd a throi ymchwil academaidd yn gamau ymarferol ar gyfer gwasanaethau iechyd y cyhoedd, llunwyr polisi a chymunedau. 

Bydd y bartneriaeth yn cefnogi gwaith ar rai o heriau iechyd y cyhoedd mwyaf Cymru, gan gynnwys atal salwch, helpu pobl i wneud dewisiadau iachach, gwella gwasanaethau a pharatoi ar gyfer pandemigau yn y dyfodol. 

Bydd y cytundeb yn helpu’r ddau sefydliad i wneud y canlynol: 

  • datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd 
  • gwneud ceisiadau am gyllid ymchwil ar y cyd 
  • rhannu gwybodaeth ac arbenigedd 
  • cefnogi hyfforddiant a datblygiad staff 
  • gwneud gwell defnydd o offer digidol, deallusrwydd artiffisial a gwyddor data 
  • sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu defnyddio’n ymarferol 

Bydd y cydweithrediad yn canolbwyntio i ddechrau ar genomeg a gwyddor ymddygiad, tra hefyd yn cefnogi gwaith ar iechyd hinsawdd ac amgylcheddol, parodrwydd ar gyfer pandemig, arloesi digidol, polisi a datblygu’r gweithlu. 

Mae’r cytundeb yn adeiladu ar flynyddoedd lawer o gydweithio a dyma’r cytundeb cyntaf ar draws y sefydliad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartner academaidd. 

Dywedodd Iain Bell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae’r cytundeb newydd hwn yn gam pwysig i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd. 

“Bydd yn ein helpu i gydweithio mewn ffordd fwy penodol a chydlynol, fel y gall ymchwil gefnogi camau gweithredu i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru yn well. 

“Drwy ddod â’n sgiliau a’n harbenigedd ynghyd, gallwn gynhyrchu ymchwil gryfach a sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei defnyddio er budd pobl yng Nghymru.” 

Dywedodd yr Athro Steve Riley, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd: 

“Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes hir o weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r cytundeb hwn yn rhoi ffordd glir inni adeiladu ar y berthynas honno. 

“Mae gan ymchwil y gwerth mwyaf pan mae’n helpu i wella bywydau. Drwy gydweithio, gallwn gefnogi syniadau newydd, meithrin sgiliau a chyflawni ymchwil sy’n ymateb i’r heriau iechyd y cyhoedd sy’n wynebu Cymru.”