Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2023-2026) - Adran 1 Crynodeb gweithredol
Rydym wedi datblygu Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd yn para tan 2026. Mae’n dangos sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i arwain gwaith ymchwil a gwerthuso er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl Cymru a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae hon yn strategaeth alluogi sy’n ein helpu i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor (2023-35).
Mae ein strategaeth ar gyfer 2023-2026 yn dangos sut y byddwn yn gweithio, ar beth y byddwn yn canolbwyntio, a sut y byddwn yn gweithio gydag eraill yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill i wella gwaith ymchwil a gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am wybod beth sy’n gweithio o ran gwella iechyd a llesiant pobl, a byddwn yn defnyddio gwaith ymchwil a gwerthuso i ddod i ddeall hynny.
Er mwyn gwneud i’n cynllun weithio, byddwn:
- Yn creu diwylliant o ymchwil a gwerthuso
- Yn gwella’r modd yr ydym yn rheoli ac yn cefnogi gwaith ymchwil a gwerthuso
- Yn cydweithio ag eraill ac yn rhannu canfyddiadau ein gwaith ymchwil a gwerthuso â phawb
- Yn sicrhau bod partneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn cael eu cynnwys yn ein gwaith ymchwil a gwerthuso.
Byddwn yn ei gwneud yn bosibl gwireddu ein strategaeth trwy ganolbwyntio ar gyflawni gwaith ymchwil a gwerthuso trylwyr ac ystyrlon sy’n mynd i’r afael â bylchau yn ein gwybodaeth i wella iechyd.
Mae’n hanfodol creu a chryfhau gwaith ymchwil a gwerthuso ar draws y sefydliad os ydym am ymateb i’r heriau cymhleth, gwneud yn fawr o gyfleoedd i hybu iechyd poblogaethau, a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Mehefin 2026