Rhwystrau a hwyluswyr ar gyfer magu ymddygiadau diogelu personol mewn amgylcheddau cyhoeddus
Awduron: Gwasanaeth Tystiolaeth, Alesha Wale, Amy Hookway, Chukwudi Okolie, Hannah Shaw, Rocio Rodriguez Lopez, Sian Price
Cyhoeddwyd ar: 1af Ionawr 2022
Cynhyrchwyd y gwaith hwn fel rhan o gydweithrediad Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru â Gwasanaeth Tystiolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyheoddiad nesaf: Diweddariad heb ei gynllunio
Cysylltwch ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae ymddygiadau diogelu personol, fel gwisgo gorchuddion wyneb, cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo, moesau anadlol a sicrhau bod yr awyru’n effeithiol yn allweddol i helpu i gyfyngu ar ledaenu COVID-19.
Mae’r adolygiad hwn yn edrych ar beth sy’n ei gwneud yn fwy neu’n llai tebygol y bydd pobl yn mabwysiadu cyngor i ddiogelu eu hunain, yn enwedig mewn lleoedd sy’n llawn pobl trwy:
- Wisgo mygydau
- Cadw pellter cymdeithasol
- Defnyddio hylif diheintio dwylo sydd ar gael
- Tisian neu besychu i mewn i’r penelin
- Sicrhau bod yr aer yn llifo mewn mannau caeëdig
Prif bwyntiau
Pa mor gyfredol yw’r dystiolaeth hon?
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn yn 2021 ac mae’n cynnwys tystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng 2004 a 2011.
Beth wnaethom ei ganfod
Mae’r ymchwil y buom yn ei hastudio’n dangos bod y bobl sy’n fwy tebygol o ddilyn y cyngor hwn yn bobl:
- Sy’n hŷn
- Sy’n fenywaidd
- Sy’n fwy addysgedig
- Sydd heb fod yn wyn
- Sydd ar well cyflog
- Sy’n ymddiried yn fwy yn y llywodraeth
- Sy’n teimlo bod COVID-19 yn fwy o risg
- Sy’n cael eu gwybodaeth o’r teledu, y radio a phapurau newydd
- Sy’n teimlo’n fwy agored i niwed
- Sy’n gryfach eu cred y bydd y mesurau hyn yn eu diogelu
- Sydd yn fwy tueddol o boeni
Y bobl sy’n llai tebygol o ddilyn y cyngor yw’r rheini sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gael eu cyngor iechyd a/ neu sy’n credu mewn damcaniaethau cynllwyn.
Dyma’r rhesymau pam nad yw pobl yn cadw pellter cymdeithasol neu’n gwisgo mygydau:
- Effaith negyddol gwneud hynny
- Ofni y bydd eraill yn feirniadol ohonynt
- Diffyg gwybodaeth neu ddealltwriaeth o’r effeithiau
- Diffyg moddion byw
- Credoau ynglŷn â sut y mae clefyd yn cael ei drosglwyddo
- Eu synnwyr eu hunain o fregusrwydd
- Teimlo, neu feddwl y byddant yn teimlo, yn anghyfforddus neu’n chwithig
Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod gofyniad cyfreithiol i gymryd y camau hyn yn gwneud unrhyw wahaniaeth.
Beth mae hyn yn ei olygu
Nododd yr adolygiad grwpiau penodol sy’n fwy neu’n llai tebygol o ddilyn cyngor i ddiogelu eu hunain a gellir defnyddio hyn i deilwra canllawiau a chyngor.
Ni allwn ragdybio y bydd y darganfyddiadau hyn yn berthnasol wrth symud ymlaen gan fod y dystiolaeth a adolygwyd yn gyfyngedig ac yn ymwneud â phandemigau eraill neu don gyntaf COVID-19. Cydnabyddir yn gyffredinol bod pobl yn llai tebygol o gymryd rhai o’r camau hyn i ddiogelu eu hunain â threigl amser.
Mae angen mwy o waith ar yr hyn a fydd yn annog pobl i gymryd camau diogelu trwy gydol y pandemig.
Gwybodaeth dechnegol
Beth ydy crynodeb cyflym o dystiolaeth?
Briff tystiolaeth interim i ddarparu sail ar gyfer gwaith pellach a sicrhau bod darganfyddiadau allweddol ar gael yn gynnar. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar chwiliad cyfyngedig o adnoddau allweddol ac asesiad o grynodebau a data testun llawn cyfyngedig. Rhoddir blaenoriaeth i astudiaethau sy’n cynrychioli cyfuniad tystiolaeth gadarn. Nid yw ansawdd yn cael ei werthuso ac nid yw tystiolaeth yn cael ei chyfuno, a dylid bod yn ofalus wrth ddehongli darganfyddiadau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Rhwystrau a hwyluswyr ar gyfer magu ymddygiadau diogelu personol mewn amgylcheddau cyhoeddus
PDF, 769KB
Llawrlwytho PDF - Rhwystrau a hwyluswyr ar gyfer magu ymddygiadau diogelu personol mewn amgylcheddau cyhoeddus (769 KB)
Llawrlwytho PDF