Neidio i'r cynnwys

Mae argyfwng diabetes Cymru yn gwaethygu’n gyflymach nag a ragwelwyd — ond nid oes rhaid iddo 

Cyhoeddwyd ar: 28 Mai 2026

Mae nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach nag a ragwelwyd yn flaenorol, yn ôl data newydd gan GIG Cymru. Mae hyn wedi cymell Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru i ddod at ei gilydd i alw ar bobl i adnabod eu risg o ddiabetes Math 2 a gweithredu nawr, fel y gallant fyw bywydau hirach ac iachach yfory. 

Mae’r ffigurau diweddaraf (2025) yn dangos bod 230,371 o bobl 17 oed a hŷn yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes — sy’n gynnydd o 7,685 o bobl, neu 3.5 y cant, mewn un flwyddyn (222,686 yn 2024). Mae’r gyfradd twf hon yn llawer uwch na’r rhagamcanion a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2021/22, a ragwelodd y byddai Cymru yn cyrraedd 260,000 – neu un o bob 11 o bobl yn cael diagnosis sy’n dangos eu bod yn byw gyda diabetes erbyn 2035. Ar y cyfraddau twf presennol, gallai’r garreg filltir honno gyrraedd yn llawer cynharach. 

Amcangyfrifir bod 269,747 o bobl eraill yng Nghymru yn byw gyda’r cyflwr cyn-ddiabetes — sy’n eu rhoi mewn perygl uchel iawn o ddatblygu’r cyflwr. Amcangyfrifir hefyd bod 58,906 o bobl yn byw gyda diabetes Math 2 heb ei ddiagnosio, ac yn anymwybodol o’r difrod a allai fod yn digwydd eisoes. Mae tua un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn byw gyda diabetes neu’r cyflwr cyn-ddiabetes ar hyn o bryd. 

Diabetes math 2 sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o achosion. Os na chaiff ei reoli, gall arwain at gymhlethdodau difrifol gan gynnwys colli golwg, clefyd yr arennau, niwed i’r nerfau, a chlefyd cardiofasgwlaidd – a fydd yn amddifadu pobl o’u hannibyniaeth, eu hansawdd bywyd, ac mewn gormod o achosion, blynyddoedd o’u bywydau. Mae’r cyflwr yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n byw mewn ardaloedd o heriau cymdeithasol ac economaidd mwy a’r rhai o gefndiroedd De Asiaidd, Du Affricanaidd, a Du Caribïaidd, gan ddyfnhau’r anghydraddoldebau iechyd presennol ledled Cymru. 

Fodd bynnag, trwy weithredu’n gynnar, yn aml, gellir atal diabetes Math 2 yn llwyr. I’r rhai sydd eisoes yn byw gyda’r cyflwr, efallai y bydd modd ei leddfu – a chyda’r wybodaeth a’r gefnogaeth gywir, gall pobl fyw’n dda gyda diabetes ac osgoi’r cymhlethdodau a brofodd cenedlaethau blaenorol fel rhai anochel. 

Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru yn dod at ei gilydd i annog pobl ledled Cymru i chwilio am; lleihau fy risg o ddiabetes math 2 Cymru, fel y gallant ddefnyddio’r offeryn rhad ac am ddim Adnabod Eich Risg Diabetes UK fel cam cyntaf. Yna byddant yn gallu cael rhagor o wybodaeth a chymorth ar amrywiaeth o wasanaethau a all helpu i leihau eu risg o ddiabetes Math 2, megis Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), y cynnig Pwysau Iach, Byw’n Iach, addysg ar-lein Let’s Prevent, Helpa Fi i Stopio a thudalennau gwe sy’n cynnwys adnoddau Diabetes. Y neges allweddol yw y gall cymryd camau cynnar wneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd yn y dyfodol.  

Astudiaeth Achos 1  

Cafodd Alex Hicks, o Gaerdydd, ddiagnosis cyntaf o ddiabetes Math 2 yn ei 30au cynnar. Ar ôl bod yn weithgar iawn erioed yn ei arddegau i mewn i’w 20au, profodd rai newidiadau i’w ffordd o fyw wrth i’w deulu dyfu a phwysau gwaith gymryd mwy o’i amser. Er bod gan Alex hanes teuluol o ddiabetes Math 2 a ddechreuodd yn hwyr, nid oedd wedi gwerthfawrogi y gallai fod wedi bod mewn perygl mor ifanc ac felly daeth ei ddiagnosis fel sioc llwyr.   

Ar ôl aros yn yr ysbyty am benwythnos, cael ei gadw dan oruchwyliaeth a derbyn y diagnosis ffurfiol o ddiabetes math 2, neidiodd Alex i weithredu. Gwnaeth ymarfer corff yn rhan allweddol o’i drefn ddyddiol trwy feicio i’r gwaith, yn ogystal â gwneud newidiadau i’w ddeiet. Ar ôl cyfnod byr, llwyddodd Alex i ddod â lefel glwcos ei waed yn ôl i lefel arferol, gan roi’r gorau i’r feddyginiaeth metformin a’i chynnal am dros ddegawd. Er hynny, nid yw’r daith wedi bod yn un hawdd bob amser.    

Dywedodd Alex:    

“Pan darodd y pandemig, lleihaodd fy nghyfleoedd i ymarfer corff dros nos a chefais fy hun yn gweithio oriau hir o gartref ac yn arwain dull gwaith mwy eisteddog. Cyn i mi sylweddoli, roedd rhai o’r symptomau hynny wedi dychwelyd, felly roeddwn i’n ofni’r gwaethaf. Ar ôl ymweliad â’r Meddyg Teulu a phrawf gwaed, dangosodd fod fy siwgr gwaed yn uchel eto.”   

“Roeddwn i’n gwadu’r sefyllfa i ddechrau, oherwydd roeddwn i’n eithaf siomedig ar ôl rheoli fy nghyflwr mor dda am dros ddeng mlynedd. Roedd rhaid i mi gael cynllun i weld sut roeddwn i’n mynd i’w reoli y tro hwn gan ei fod yn llawer mwy ystyfnig nag o’r blaen ac roeddwn i’n gyflym ar y dos uchaf o metformin.”   

“Roeddwn i wedi clywed am Raglen X-PERT drwy fy ngwaith ac roeddwn wedi perswadio fy hun i beidio â’i defnyddio o’r blaen oherwydd yr ymrwymiad amser. Ond ar ôl cael atgyfeiriad gan y Meddyg Teulu ac addasu fy mhatrwm gwaith i ddarparu ar gyfer yr ymrwymiad o 2 awr yr wythnos am 6 wythnos, trwy’r rhaglen hon y clywais am Counterweight am y tro cyntaf erioed.” 

“Y dietegydd Counterweight a wnaeth y gwahaniaeth go iawn. Drwy ei harbenigedd, ei hyfforddiant a’i hannogaeth a’i chefnogaeth, ynghyd â’r rhaglen amnewid diet cyflawn, rydw i wedi gallu rhoi’r gorau i’r holl feddyginiaeth diabetes ac wedi colli 20% o gyfanswm pwysau fy nghorff. Mae cael cefnogaeth gan y rhaglen Counterweight a’i hyfforddwr wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran cynnal ffordd iach o fyw. Rydw i wedi dal i allu cymryd rhan mewn teithiau beicio elusennol ac mae fy mhrawf gwaed diwethaf wedi fy nghael yn ôl i’r lefel arferol, sy’n wych.”    

Astudiaeth Achos 2 

Cafodd Elaine Adams o’r Barri ei diagnosis cyntaf o ddiabetes Math 2 tua thri deg mlynedd yn ôl. Trefnodd apwyntiad i weld ei meddyg teulu pan ddechreuodd deimlo’n anhwylus ac yn flinedig iawn. Er ei bod yn ymwybodol o hanes o ddiabetes ar ochr ei thad o’r teulu, roedd Elaine ar y cychwyn yn credu ei bod yn profi problem iechyd hollol wahanol. Er bod y diagnosis wedi bod yn sioc i Elaine, wnaeth hi ddim gadael iddo ei dal yn ôl. 

Dywedodd Elaine: 

“Roeddwn wedi bod wrthi ers blwyddyn yn paratoi ar gyfer Marathon Llundain. Llwyddais i redeg y ras ychydig fisoedd ar ôl cael fy niagnosis. Gwnaeth fy neiet, ymarfer corff a chymorth fy helpu i reoli’r cyflwr.” 

“Rwyf wedi cadw’n brysur ers hynny. Ond nid yw hynny’n golygu nad oes adegau pan rwyf wedi’i chael yn anodd aros ar y trywydd iawn – mae’r Nadolig, y Pasg a phen-blwyddi wastad yn anodd. Ond rwyf bob amser wedi ceisio dychwelyd i fy nhrefn arferol pan fydd hynny’n digwydd.” 

Ers iddi gael ei diagnosis, mae Elaine wedi bod yn awyddus i herio’r stigma sy’n gysylltiedig â diabetes Math 2. Mae hi’n gwybod bod y cymorth gorau’n dod o fod yn agored am ei diagnosis. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi gwirfoddoli gyda Diabetes UK ac wedi hwyluso cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gymheiriaid. Dywed Elaine mai dyma’r peth gorau i’w helpu i gynnal ei hiechyd ei hun. 

Dywedodd David Taylor, Cyfarwyddwr Trawsnewid yn Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r cynnydd cyflym hwn yn nifer y bobl sydd bellach yn cael diagnosis o ddiabetes Math 2 yn argyfwng cenedlaethol i Gymru, ond diolch byth mae’n un y gallwn ymateb iddo.  

“Nid yw cael diagnosis o ddiabetes Math 2 byth yn fai ar yr unigolyn hwnnw, ond yn aml, pe bai’r unigolyn hwnnw wedi cael mynediad at yr wybodaeth gywir ac wedi cael y gefnogaeth oedd ei hangen arno’n ddigon cynnar, yna mae lleihau ei risg, gohirio ei ddiagnosis neu leihau cymhlethdodau yn y dyfodol os bydd yn cael ei ddiagnosio, i gyd yn bosibiliadau real iawn.  

“Rydym am gefnogi pobl i fyw bywydau hir ac iach yng Nghymru ac i wneud hyn mae angen i ni gynyddu gwybodaeth y cyhoedd am y risg – a sut i leihau’r risg honno. Nid oes rhaid i’r rhain fod yn newidiadau bywyd mawr. Gall hyd yn oed camau bach fel mynd am dro am 10 munud ar ôl prydau bwyd helpu. Mae atal yn aml yn bosib os ydym yn gweithredu’n gynnar.” 

Dywedodd Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: 

“Mae’n bwysig darganfod a ydych chi mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 – fel y gallwch gymryd camau i ddiogelu eich iechyd. Drwy ddefnyddio ein hofferyn ar-lein syml Adnabod Eich Risg, gallwch gael cyngor ynghylch a ydych mewn perygl a chael arweiniad ar ba gamau i’w cymryd nesaf. Mae’n rhad ac am ddim a dim ond ychydig funudau y mae’n eu cymryd.” 

Dywedodd Dr Sarah Davies, meddyg teulu yng Nghaerdydd ac arweinydd Gofal Sylfaenol ar gyfer Diabetes yng Nghymru: 

“Rydym yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn cael diagnosis o ddiabetes math 2 yng Nghymru, gyda niferoedd sy’n cynyddu’n arbennig o gyflym ymhlith pobl o dan 40 oed.   

“Rydym yn gweld diabetes math 2 yn fwy cyffredin mewn pobl sydd â hanes teuluol cryf o ddiabetes math 2, mewn pobl sydd dros bwysau, neu’n byw gyda gordewdra neu gyflyrau eraill fel pwysedd gwaed uchel.  Os gallwn ni gefnogi pobl i ddeall eu risg o ddatblygu diabetes math 2 a sut y gallant gymryd camau i’w leihau, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau a hefyd leihau’r effaith ar y system gofal iechyd.  Os bydd rhywun yn datblygu diabetes math 2, gorau po gyntaf y byddwn yn gwybod am hyn oherwydd gyda’n gilydd gallwn gymryd camau cynnar i leihau’r risg o gymhlethdodau fel cyflyrau sy’n effeithio ar yr arennau, y llygaid neu’r galon, yn digwydd yn ddiweddarach.” 

I ddarganfod eich risg o ddiabetes Math 2 a chael cymorth i helpu i leihau’r risg honno, ewch i: lleihau fy risg o ddiabetes math 2 Cymru