Canlyniad sgrinio eich babi – Mae homosystinwria (HCU) yn cael ei amau
Mae prawf smotyn gwaed (prawf pigo sawdl) yn awgrymu y gallai fod gan eich baban newydd-anedig homosystinwria (HCU).
Bydd angen cynnal rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban HCU.
Beth yw HCU?
Mae HCU yn anhwylder metabolaidd etifeddol prin y gellir ei drin.
Nid oes gan fabanod y mae HCU arnynt ddigon o ensym sydd ei angen arnynt i dorri i lawr rhan o’r protein a geir mewn bwyd. Heb yr ensym hwn, gall rhai sylweddau gronni yn y corff. Os na chaiff HCU ei drin, gall arwain at salwch difrifol a phroblemau iechyd hirdymor.
O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod y mae HCU arnynt dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl y mae HCU arnynt fwynhau bywydau iach a gweithgar.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd tîm metabolig arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban HCU.
Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn y canlyniadau hyn.
Os bydd eich baban yn mynd yn sâl neu os ydych chi’n poeni nad yw’n bwydo’n iawn, ceisiwch gymorth meddygol.
Os bydd profion yn cadarnhau bod gan eich baban HCU, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm metabolig arbenigol. Byddant yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth yn gyflym.
Sut y gallech chi fod yn teimlo:
Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan y grwpiau canlynol:
Metabolic Support UK
- Gwefan: www.metabolicsupportuk.org (Saesneg yn unig)
- Rhif ffôn: 0845 241 2173 neu 0800 652 3181
- E-bost: [email protected]
Mae llyfryn defnyddiol am HCU (Saesneg yn unig) ar gael ar wefan British Inherited Metabolic Diseases Group (BIMDG).