Canlyniad sgrinio eich babi – Mae hypothyroidedd cynhenid (CHT) yn cael ei amau
Mae prawf smotyn gwaed eich baban newydd-anedig (prawf pigo sawdl) yn awgrymu y gallai fod isthyroidedd cynhenid arno (CHT).
Bydd angen rhagor o brofion ar eich baban i gadarnhau a oes CHT arno.
Beth yw CHT?
Mae CHT yn gyflwr prin y gellir ei drin.
Nid yw babanod y mae CHT arnynt yn cynhyrchu digon o’r hormon thyrocsin, sy’n sylwedd naturiol a gynhyrchir yn y corff. Mae thyrocsin yn cael ei gynhyrchu gan y chwarren thyroid yn y gwddf. Os na chaiff ei drin, gall CHT arwain at broblemau iechyd hirdymor.
O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod â CHT dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl â CHT fwynhau bywydau iach a gweithgar.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd tîm arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban CHT.
Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r profion hyn.
Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban CHT, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol. Byddant yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau triniaeth yn gyflym.
Sut y gallech chi fod yn teimlo:
Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chefnogaeth gan:
British Thyroid Foundation.
- Gwefan: www.btf-thyroid.org/congenital-hypothyroidism-overview (Saesneg yn unig)
- Ffonio:01423 810093
E-bost: [email protected]