Neidio i'r cynnwys

Canlyniad sgrinio eich babi chi – Mae ffibrosis systig (CF) yn cael ei amau

Mae prawf smotyn gwaed eich baban newydd-anedig (prawf pigo sawdl) yn awgrymu y gallai fod ganddo/ganddi ffeibrosis systig.  

Bydd angen rhagor o brofion ar eich baban i gadarnhau a oes gan eich baban ffeibrosis systig.

Beth yw Ffeibrosis Systig? 

Mae ffeibrosis systig yn gyflwr prin a etifeddir ond y gellir ei drin. 

Gall babanod â ffeibrosis systig gynhyrchu mwcws trwchus a gludiog sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r system dreulio. Os na chaiff ei drin, gall ffeibrosis systig arwain at broblemau iechyd hirdymor. 

O gael diagnosis a thriniaeth gynnar, gall babanod â ffeibrosis systig dyfu a datblygu’n normal, a gall pobl â  ffeibrosis systig fyw bywydau iach a gweithgar.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd tîm arbenigol yn trefnu rhagor o brofion i gadarnhau a oes gan eich baban ffeibrosis systig. 

Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i chi dderbyn canlyniadau’r profion hyn.   

Os bydd y profion yn cadarnhau bod gan eich baban ffeibrosis systig, byddwch yn derbyn rhagor o gefnogaeth a gofal gan y tîm arbenigol a fydd yn egluro’r cyflwr yn fanylach, yn ateb eich cwestiynau ac yn dechrau’r driniaeth yn brydlon.

Sut y gallech chi fod yn teimlo:

Mae’n gwbl naturiol teimlo’n bryderus neu’n ansicr pan fydd angen profion pellach ar eich baban. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan y grwpiau canlynol:  

Yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig    

  • Rhif ffôn: 0300 373 1000 neu 020 3795 2184 (Dydd Llun–Dydd Gwener 10am-4pm)  
  • WhatsApp: 07361 582053  

Fersiynau eraill