Neidio i'r cynnwys

Atal clefydau cardiofasgwlaidd

Cynllun Atal Clefydau Cardiofasgwlaidd Cymru: Dull ABCD Plus

Mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn cyfeirio at ystod o gyflyrau sy’n effeithio ar y galon a’r pibellau gwaed ac mae’n broblem iechyd sylweddol yng Nghymru. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn gyfrifol am ddigwyddiadau difrifol a all beryglu bywydau, gan gynnwys trawiadau ar y galon a strôc.

Dyma rai o brif achosion Clefyd Cardofasgwlaidd:

  • Ffibriliad Atriaidd (problemau â rhythm y galon)
  • Pwysedd gwaed uchel (hypertension)
  • Colesterol uchel (hyperlipidemia)
  • Diabetes

Ffibriliad Atriaidd (problemau â rhythm y galon)
Pwysedd gwaed uchel (hypertension)
Colesterol uchel (hyperlipidemia)
Diabetes

YN OGYSTAL AG ymddygiadau allweddol megis smygu, diet, anweithgarwch corfforol, yfed alcohol, ochr yn ochr â phenderfynyddion ehangach iechyd, megis llesiant ariannol.

Daw rhywfaint o’r dystiolaeth gryfaf o ran atal clefyd cardiofasgwlaidd o ymyriadau sy’n nodi pobl sydd â risg uchel ac yn defnyddio meddyginiaeth i leihau eu perygl ABCD Plus, yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth sy’n seiliedig ar risg. 

Mae Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd Cymru yn ffrwyth cydweithrediad rhwng sefydliadau partner ledled Cymru, a bydd yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r her hon gyda’n gilydd. Darllenwch Gynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd Cymru.

Yn ogystal â’r ‘Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i Gymru’, mae ein hail gyhoeddiad, ‘Y Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i Gymru: Argymhellion ar gyfer Cymru’ yn adeiladu ar y cynllun gwreiddiol drwy nodi 12 argymhelliad i helpu partneriaid i gymryd camau i atal clefydau cardiofasgwlaidd. Mae’r argymhellion hyn yn canolbwyntio ar gefnogi dinasyddion a chymunedau i wybod beth yw eu risg a chymryd camau, a galluogi’r system iechyd a gofal i nodi, trin a chefnogi pobl sydd â ffactorau risg ABCD Plws.

Mae’r argymhellion yn darparu dull strwythuredig i bartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol flaenoriaethu a gwreiddio camau gweithredu wrth gynllunio a chyflawni. Bydd yr argymhellion hyn yn cefnogi ein nod cyffredin o leihau marwolaethau ac anableddau sy’n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd, a lleihau anghydraddoldebau o ran canlyniadau clefyd cardiofasgwlaidd ledled Cymru. Darllenwch y Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i Gymru: Argymhellion ar gyfer Cymru.