Cost anghydraddoldeb iechyd i’r GIG yng Nghymru
- Asesiadau economaidd a modelu
- Economi iechyd
Cyhoeddwyd ar: 16eg Medi 2022
Math o gyfeiriad: Erthygl
Crynodeb:
Nod y gwaith ymchwil hwn yw amcangyfrif cost ariannol anghydraddoldebau i’r GIG yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddefnydd ychwanegol o ofal iechyd sy’n gysylltiedig ag amddifadedd. Gan ddefnyddio data gwasanaeth ysbyty poblogaeth gyfan, mae’r gwaith ymchwil yn amcangyfrif y defnydd ar ysbytai a’r costau cysylltiedig ar draws pum grŵp amddifadedd, wedi’u dadansoddi yn ôl oedran, rhyw, a math o wasanaeth ysbyty.
Mae’r canfyddiadau yn tynnu sylw at wahaniaethau sylweddol mewn defnydd iechyd a gofal iechyd, gan atgyfnerthu’r achos dros dargedu buddsoddiadau. Gallai lleihau’r anghydraddoldebau hyn drwy gyfuniad o bolisïau hyrwyddo iechyd ac ymyrraeth gynnar ar gyfer cymunedau difreintiedig arwain at welliant sylweddol mewn iechyd a llesiant, ac arwain at arbedion sylweddol i GIG Cymru drwy leihau’r ddibyniaeth ar ofal brys mewn ysbytai.
Mae dangosfwrdd rhyngweithiol i gyd-fynd â’r gwaith ymchwil hwn, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio’r costau sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldeb mewn manylder.
Gallwch ddarllen yr adroddiad sy’n gysylltiedig â’r erthygl hon yma.