Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd mewn mwy o berygl o gael diabetes math 2, gyda’r nod o’u diogelu rhag datblygu’r cyflwr hwn.
Yn y rhaglen hon, mae gweithwyr cymorth gofal iechyd sydd wedi cael eu hyfforddi ac sy’n cael eu cefnogi gan ddeietegwyr yn darparu apwyntiad i bobl sydd wedi cael prawf gwaed sy’n dangos eu bod mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes math 2. Yn yr apwyntiad hwn, trafodir ffactorau risg unigol ac ymddygiadau iach. Anogir y rhai sy’n mynd i’r apwyntiad osod nodau cyraeddadwy i leihau eu risg bersonol o ddatblygu diabetes math 2 a chynigir cyfeirio perthnasol iddynt at adnoddau a gwasanaethau eraill fel Let’s Prevent Diabetes (Saesneg yn unig) a Helpa Fi i Stopio.
Cefndir
Mae 230,371 o bobl 17 oed a hŷn yng Nghymru yn byw gyda diabetes, ac mae gan naw o bob 10 ohonynt ddiabetes math 2. Amcangyfrifir bod 269,747 o bobl eraill yng Nghymru yn byw gyda chyn-ddiabetes. Mae diabetes yn gyflwr difrifol, sydd weithiau yn para gydol oes. Mae’n un o brif achosion colli golwg ac yn gyfrannwr mawr tuag at fethiant yr arennau, trawiad ar y galon a strôc. Gall diabetes math 2 gael effaith ddifrifol ar unigolion a’u teuluoedd. Mae cost ariannol hefyd: mae trin diabetes math 2 yn cyfrif am tua 10% o gyllideb flynyddol y GIG.
Y newyddion da yw y gellir atal diabetes math 2 mewn llawer o achosion. Drwy gefnogi pobl i wneud newidiadau i’w hymddygiad iechyd, mae tystiolaeth yn awgrymu y gellid atal dros hanner yr achosion o ddiabetes math 2. Dan arweiniad cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gyflwyno’n lleol gan weithwyr cymorth gofal iechyd ymroddedig ac arweinwyr deietig sy’n gweithio ym maes gofal sylfaenol, mae’r AWDPP yn cefnogi pobl sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu diabetes math 2 i wneud newidiadau i’w deiet ac i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Pam mae angen Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan arnom?
Mae diabetes math 2 yn fwy cyffredin yng Nghymru nag yng ngweddill y DU. Am ei bod yn dod yn fwy cyffredin i fwy o unigolion fod dros eu pwysau ac yn ordew, mae mwy o angen cynnal gwaith ataliol: Roedd adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2023 yn rhagweld, pe bai tueddiadau’n parhau, y byddai tua un o bob 11 oedolyn 17 oed a hŷn yng Nghymru yn byw gyda diabetes erbyn 2035/36. Mae effaith diabetes math 2 ar iechyd a llesiant unigolion a’u teuluoedd yn ddifrifol.
Beth yw’r ymyriad?
Mae’r AWDPP yn rhaglen wedi’i thargedu ar gyfer pobl sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu diabetes math 2. Bydd pobl sydd mewn mwy o berygl yn cael eu hadnabod trwy brawf gwaed o’r enw prawf HbA1c sy’n mesur lefelau glwcos gwaed cyfartalog unigolyn dros y ddau i dri mis diwethaf. Mae pobl mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes math 2 os yw lefel eu HbA1c rhwng 42 a 47 mmol/mol.
Bydd pobl gymwys mewn ardaloedd lle mae’r rhaglen ar gael yn derbyn llythyr gwahoddiad, ynghyd â thaflen wybodaeth, yn gofyn iddynt drefnu apwyntiad. Darperir yr apwyntiadau mewn partneriaeth rhwng gofal sylfaenol a’r byrddau iechyd lleol a’u cyflwyno fel apwyntiad un-i-un gyda gweithiwr cymorth gofal iechyd. Bydd yr apwyntiad fel arfer yn para tua 30 munud. Bydd y gweithiwr cymorth gofal iechyd yn siarad â phobl am eu risg o ddatblygu diabetes math 2 a’r hyn y gallant ei wneud i leihau’r risg honno. Gallant hefyd eu hatgyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol a allai fod o fudd iddynt. Gallai hyn fod yn bersonol yn lleol neu apwyntiad rhithwir dros y ffôn neu fideo, yn dibynnu ar y gwasanaeth lleol sydd ar gael. Cynhelir gwiriad dilynol 12 mis yn ddiweddarach.
Ydy’r ymyriad yn effeithiol?
Ydy. Mae’r AWDPP bellach wedi’i werthuso gan ddefnyddio gwybodaeth o’r rhaglen ac o gofnodion gofal iechyd arferol y GIG. Cymharodd y gwerthusiad bobl a gafodd gynnig yr AWDPP â’r rhai a oedd hefyd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, ond a gafodd y gofal arferol cyn i’r rhaglen gael ei chyflwyno. Ar ôl 12 mis, canfu fod pobl a gafodd gynnig yr AWDPP yn llawer llai tebygol o fod â lefelau glwcos yn y gwaed sydd yn yr ystod diabetes, sy’n cyfateb i ostyngiad o 23% yn y risg o ddatblygu diabetes, neu bron i chwarter. Mae hyn yn dangos bod yr AWDPP yn effeithiol wrth atal pobl sydd mewn perygl o ddiabetes math 2 rhag ei ddatblygu.
Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddiabetes math 2 a sut i leihau fy risg o’i ddatblygu?
- Beth yw diabetes math 2? (Saesneg yn unig)
- Lleihau eich risg o ddiabetes math 2 – Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Beth yw HbA1c? (Saesneg yn unig)
- Sgiliau Maeth am Oes
- Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)
- PocketMedic (Saesneg yn unig)
Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan?
- Datblygu’r ymyrraeth ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
- Protocol Ymyriadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
- Gwerthusiad Ffurfiannol a Seiliedig ar Werth o’r Broses o Gyflwyno Cam 1 Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
- Canfyddiadau gwerthusiad o ganlyniadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan
- Pecyn Cymorth ar Degwch Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP)