Neidio i'r cynnwys

Brechlyn COVID-19 - Ynglŷn â'r brechlyn COVID-19

Am y brechiad 

Mae brechu’n achub bywydau. Mae’n helpu i’ch amddiffyn rhag mynd yn sâl iawn. 

Mae brechlynnau COVID-19 yn eich helpu i’ch amddiffyn rhag y mathau o feirysau COVID-19 sy’n lledaenu nawr. Fel y ffliw, gall y feirws COVID-19 newid, a gall amddiffyniad y brechlyn leihau dros amser. Cael brechlyn COVID-19 yw’r ffordd orau o aros yn ddiogel a lleihau eich risg o fynd yn sâl iawn. 

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn sydd orau i chi. Gall hyn fod yr un fath â’r brechlynnau rydych chi wedi’u cael o’r blaen, neu’n wahanol iddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gweld y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer brechlynnau COVID-19 cyfredol (safle allanol, Saesneg yn unig). Rhowch ‘COVID-19‘ yn y blwch chwilio. 

Rhaid i bob meddyginiaeth a brechlyn a ddefnyddir yn y DU fodloni safonau diogelwch llym. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu gwirio’n ofalus a’u bod yn ddiogel iawn i’w defnyddio. 

Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yw’r sefydliad sy’n cymeradwyo meddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau. Dim ond os dangosir eu bod yn ddiogel ac yn gweithio’n dda y maent yn eu cymeradwyo. 

Mae’r MHRA wedi cymeradwyo nifer o frechlynnau COVID-19 i’w defnyddio yn y DU. Mae’r brechlynnau hyn wedi profi i fod yn ddiogel ac yn effeithiol. 

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau weithiau. Caiff unrhyw adroddiadau am sgil-effeithiau eu monitro a’u hadolygu’n agos. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod brechlynnau’n parhau i fod yn ddiogel.

Gwybodaeth:

Ni all y brechlyn COVID-19 achosi COVID-19 na’i ledaenu. 

Y brechiad COVID-19 a phobl â system imiwnedd wan iawn 

Os ydych chi’n chwe mis oed neu’n hŷn ac mae gennych chi system imiwnedd wan iawn, efallai na fyddwch chi’n cael yr un lefel o amddiffyniad o’r brechlyn COVID-19 â phobl eraill. Fodd bynnag, dylai helpu i’ch amddiffyn rhag salwch difrifol.  

Gallai hyn fod oherwydd cyflwr iechyd, neu driniaeth sy’n effeithio ar eich system imiwnedd (er enghraifft, rhai triniaethau canser neu feddyginiaethau sy’n lleihau imiwnedd). 

Os yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y cynigir brechlynnau COVID-19 ychwanegol i chi. Gall hyn helpu i wella eich amddiffyniad. Bydd eich meddyg teulu neu nyrs yn eich cynghori. 

Efallai y cynigir y dosau ychwanegol hyn i chi: 

  • y tu allan i’r rhaglen dymhorol arferol, a 
  • chyn yr ymgyrch frechu gynlluniedig nesaf  

Mae’n fwy diogel i’ch system imiwnedd ddysgu sut mae amddiffyn ei hun drwy frechlyn yn hytrach na thrwy ddal afiechyd. 

Os oes gennych gwestiynau, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs y practis. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi a oes angen brechlynnau COVID-19 ychwanegol arnoch chi neu’ch plentyn.    

Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am y brechlyn COVID-19 isod. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.  

Pam y dylech chi gael y brechlyn 

Pam ddylwn i gael y brechiad COVID-19?

Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau lleihau dros amser. Cynigir brechiad ddwywaith y flwyddyn i bobl sydd mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19. Bydd y dosau hyn yn helpu i’ch diogelu am gyfnod hirach. 

Gall cael y brechlyn helpu i leihau’r risg y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty oherwydd COVID-19. 

Pam mae brechlynnau’n bwysig?

Mae brechlynnau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn achub bywydau. 

Mae brechlynnau’n gweithio trwy ddweud wrth eich system imiwnedd sut mae brwydro yn erbyn clefyd. Mae eich system imiwnedd yn ymateb i’r brechlyn ac yn cynhyrchu gwrthgyrff. Mae gwrthgyrff yn helpu eich corff i frwydro yn erbyn salwch pan fyddwch chi’n ei ddal. Os byddwch chi’n dod i gysylltiad â’r afiechyd, bydd eich system imiwnedd yn cofio sut mae gwneud y gwrthgyrff hyn. 

Os oes ofn nodwyddau arnoch chi, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi. 

Oes angen y brechlyn arnaf os ydw i wedi cael haint COVID-19 o’r blaen? Os felly, pa mor hir ddylwn i aros cyn cael fy mrechu?

Oes.  Os ydych chi eisoes wedi cael COVID-19, ni fydd hyn bob amser yn eich amddiffyn rhag heintiau yn y dyfodol. Felly dylech chi dal cael y brechlyn i wneud yn siŵr eich bod chi wedi’ch amddiffyn yn iawn. 

Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble y gallwch gael y brechlyn. Mae’n bwysig eich bod yn mynd i gael y brechlyn pan gewch eich gwahoddiad.  

A fydd y brechlyn am ddim?

Os ydych chi’n gymwys, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu am ddim drwy’r GIG. 

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn  

Pwy fydd yn cael cynnig brechlyn COVID-19? 

Bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i bobl sydd mewn mwy o berygl os byddant yn dal COVID-19. Sef:  

  • pobl 75 oed a hŷn   
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn; ac   
  • unigolion chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.  

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf addas ar gyfer eich oedran a’ch cyflwr. Os ydych chi’n gymwys, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu am ddim drwy’r GIG. 

Mae Cymru yn dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar bwy sy’n gymwys i gael brechiadau COVID-19. Mae’r polisi hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael salwch difrifol a marw o COVID-19. 

Sut fydda i’n gwybod a oes gennyf system imiwnedd wan?

Mae system imiwnedd wan yn golygu na all eich corff frwydro yn erbyn heintiau cystal ag y byddai fel arfer. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd: 

  • yn cael cemotherapi neu rai mathau o radiotherapi 
  • wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn, bôn-gelloedd neu organau 
  • yn byw gyda HIV (ar unrhyw gam) 
  • ag anhwylder genetig sy’n effeithio ar y system imiwnedd (fel IRAK-4, NEMO, anhwylder cyflenwol neu ddiffyg imiwnedd cyfun difrifol) 
  • yn cael therapi biolegol i atal y system imiwnedd (er enghraifft, rituximab, alemtuzumab neu wrth-TNF) 
  • yn cymryd (neu ar fin cymryd) steroidau am fwy na mis ar ddos penodol 
  • wedi cael diagnosis o fyeloma ymledol neu â hanes o ganserau’r gwaed, gan gynnwys lewcemia, lymffoma neu fyeloma, ac 
  • yn cael triniaeth imiwnotaliol hirdymor (triniaethau sy’n gwanhau’r system imiwnedd) ar gyfer clefyd awto-imiwn (cyflwr lle mae’r system imiwnedd yn ymosod ar gelloedd iach yn y corff ar gam). 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Raglen frechu Rhaglen frechu COVID-19 genedlaethol hydref 2026 (WHC/2026/009) | LLYW.CYMRU (safle allanol) neu cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch Bwrdd Iechyd lleol (safle allanol). 

Os ydw i’n gymwys, pryd bydda i’n cael y brechiad tymhorol?

Os ydych chi’n gymwys i gael dos tymhorol, byddwch chi’n cael cynnig y brechlyn ddwywaith y flwyddyn, fel arfer yn y gwanwyn a’r hydref. Dylech gael gwahoddiad i gael eich brechlyn tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos olaf o’r brechlyn. 

Cynigir dos y gwanwyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Os ydych chi’n sâl ac yn methu â chael y brechlyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, efallai y byddwch chi’n gallu cael y brechlyn ym mis Gorffennaf. Cynigir dos yr hydref rhwng mis Hydref a mis Ionawr.  

Os nad ydych chi’n 75 oed eto ond yn troi’n 75 yn ystod y cyfnod y bydd y brechlyn yn cael ei gynnig, byddwch yn dal i gael eich gwahodd i gael eich brechiad. Nid oes raid i chi aros tan eich pen-blwydd. 

Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble y gallwch gael y brechlyn. Mae’n bwysig eich bod yn mynd i gael y brechlyn pan gewch eich gwahoddiad. Os na allwch fynd, rhowch wybod i’r tîm apwyntiadau trwy ddefnyddio’r manylion yn eich llythyr apwyntiad. Gallant gynnig eich apwyntiad i rywun arall a threfnu apwyntiad newydd i chi cyn gynted â phosibl. 

Dydw i ddim wedi cael gwahoddiad i gael fy mrechlyn. Beth ddylwn i ei wneud?

Peidiwch â phoeni os ydych chi’n meddwl eich bod wedi methu’r gwahoddiad. Gallwch siarad â’ch practis meddygon teulu neu dîm imiwneiddio’r bwrdd iechyd lleol (safle allanol). 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gael y brechiad (safle allanol).

Brechiadau eraill: 

Mae’n bwysig cael brechiadau a gollwyd. Os ydych chi neu’ch plentyn wedi colli brechiad, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs y practis neu ymwelydd iechyd. 

Gellir rhoi brechlynnau COVID-19 yr un pryd â brechlynnau eraill.  

Pwy all gydsynio i blant a phobl ifanc gael y brechlyn?

Gofynnir i chi roi cydsyniad ar sail gwybodaeth os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn neu unigolyn ifanc. Mae hyn yn golygu rhoi caniatâd iddyn nhw gael y brechlyn.  

Mewn rhai achosion, efallai y bydd pobl ifanc o dan 16 oed yn gallu cydsynio eu hunain. Mae hyn yn berthnasol os ydyn nhw’n ddigon aeddfed i ddeall yn llawn yr hyn sy’n cael ei gynnig. Dylai rhieni neu warcheidwaid fod yn rhan o’r penderfyniad lle bynnag y bo modd.  

Bydd y sawl sy’n rhoi’r brechlyn bob amser yn gwirio bod ganddynt y cydsyniad angenrheidiol yn gyntaf. Bydd yn gallu trafod y brechlyn yn yr apwyntiad ac ateb cwestiynau. 

Beth am bobl sy’n gymwys i gael y brechlyn ond sydd yn yr ysbyty am rywbeth arall?

Efallai y bydd cleifion ysbyty sydd i fod i gael eu brechu yn cael cynnig eu brechiad yn yr ysbyty os yn bosibl. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol (safle allanol) am ragor o wybodaeth. 

Bydd preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn cael cynnig eu brechiad yn eu cartref gofal. 

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Oes sgil-effeithiau?

Fel gyda phob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond ni fydd pawb yn eu profi. Mae’r rhan fwyaf o sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau. 

Gall y sgil-effeithiau mwyaf cyffredin gynnwys:  

  • braich boenus, chwydd neu gochni lle rhoddwyd y pigiad i chi  
  • blinder  
  • pen tost/cur pen 
  • poenau yn y cymalau neu’r cyhyrau  
  • teimlo’n oer 

Efallai y bydd gennych dwymyn ysgafn am ddau neu dri diwrnod ar ôl cael brechlyn. Mae tymheredd uchel yn anarferol a gall gael ei achosi gan haint neu salwch arall. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs os ydych chi’n poeni.  

Gallwch gymryd parasetamol a gorffwys i’ch helpu i deimlo’n well. Dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir. 

Gallwch roi dos o’r cryfder cywir o barasetamol ar ffurf hylif i fabanod a phlant ifanc. Gall hyn helpu i leihau eu twymyn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel yn ofalus iawn a rhowch y dos cywir ar gyfer oedran eich plentyn. Ni argymhellir rhoi parasetamol hylif cyn cael brechiad i atal twymyn. 

Ni ddylid rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i blant dan 16 oed. 

Gall rhai pobl gael chwarennau chwyddedig yn y gesail neu’r gwddf ar yr un ochr â’r fraich lle cawsant y brechlyn. Gall hyn bara am oddeutu 10 diwrnod. Cysylltwch â’ch practis meddygon teulu i gael cyngor os yw’n para’n hirach. Os ydych chi i fod i gael prawf sgrinio’r fron (mamogram) yn yr ychydig wythnosau ar ôl i chi gael y brechlyn, dywedwch wrth y staff sgrinio eich bod wedi cael y brechlyn COVID-19. 

 

Yn anaml iawn, mae llid y galon wedi cael ei adrodd ar ôl cael rhai brechlynnau COVID-19. Gelwir hyn yn myocarditis neu pericarditis. Gwelwyd hyn yn bennaf mewn dynion iau o fewn ychydig ddyddiau o gael y brechiad. Gwellodd y rhan fwyaf o bobl ac roeddent yn teimlo’n well ar ôl gorffwys a thriniaeth syml. 

Dylech gael cyngor meddygol ar frys os ydych yn profi’r canlynol:   

  • poen yn y frest  
  • diffyg anadl, neu  
  • galon sy’n curo’n gyflym, yn afreolaidd neu’n curo’n drwm.  

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael brechiad. Gall hyn achosi anawsterau anadlu a pheri i bobl lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac maen nhw’n effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.  

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau. 

Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n bryderus, ffoniwch GIG 111 neu eich Practis Meddygon Teulu. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt pa frechlynnau a gawsoch fel y gallant eich asesu’n llawn. Gallwch hefyd fynd i GIG 111 Cymru ar-lein (safle allanol). 

Darllenwch y daflen wybodaeth am y cynnyrch i gael rhagor o fanylion am eich brechlyn, gan gynnwys yr holl sgil-effeithiau posibl. 

Mae cannoedd o filoedd o frechlynnau COVID-19 wedi cael eu rhoi yng Nghymru. Mae brechlynnau COVID-19 yn ddiogel. 

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, yr hyn sydd ynddo a’r holl sgil-effeithiau posibl, gallwch edrych ar y daflen wybodaeth i gleifion.

Mae symbol triongl du ar frechlyn neu feddyginiaeth yn golygu ei fod yn cael ei fonitro’n agos am unrhyw sgil-effeithiau. Bydd hyn yn caniatáu i wybodaeth ddiogelwch newydd gael ei hadnabod yn gyflym. Gallwch helpu drwy roi gwybod am sgil-effeithiau y gallech chi neu’ch plentyn eu cael. 

Dylech roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau o’r brechlyn drwy’r cynllun Yellow Card ar-lein (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap Yellow Card neu ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). 

Os ydw i’n sâl, a ddylwn i gael y brechlyn?

Nid yw annwyd na mân anhwylder arall yn rheswm dros ohirio cael eich brechlyn.   

Os oes gennych dymheredd uchel (twymyn) uwchlaw 38.5C, arhoswch nes eich bod yn well cyn i chi gael y brechlyn. Fodd bynnag, dylech chi geisio cael y brechlyn cyn gynted â phosibl. Os na allwch fynd i’ch apwyntiad, canslwch ef a gwnewch un newydd.   

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad i chi. 

Cefais adwaith alergaidd i ddos ​​blaenorol o frechlyn COVID-19. A ddylwn i gael dosau pellach?

Bach iawn yw’r nifer o bobl na allant gael y brechlyn COVID-19. Mae’r rhan fwyaf o bobl ag alergeddau yn gallu cael y brechlyn heb broblem.  

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol: 

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu 
  • unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych chi wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol. 

A fydd y brechlyn COVID-19 yn fy atal rhag dal y feirws?

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i atal salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19.  

Fel pob meddyginiaeth, nid oes yr un brechlyn yn 100% effeithiol – gall rhai pobl ddal i gael COVID-19 er gwaethaf cael brechiad, ond dylai eu symptomau fod yn llai difrifol. 

Efallai y bydd eich lefelau amddiffyniad yn dechrau lleihau dros amser, felly efallai y bydd angen i chi gael brechlynnau ychwanegol. 

Mae rhaglen frechu’r DU wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae miliynau o bobl wedi cael eu brechu a miloedd o fywydau wedi cael eu hachub. 

Mae’n dal yn bwysig adnabod arwyddion a symptomau COVID-19, hyd yn oed os ydych chi neu’ch plentyn wedi cael eich brechu. Am ragor o wybodaeth am COVID-19, ewch i Canllawiau i bobl â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 (safle allanol). 

Rwy’n gymwys i gael y brechlyn COVID-19, ond rwy’n feichiog neu’n ceisio beichiogi. A alla i gael y brechlyn?

Gallwch, gellir rhoi brechlynnau COVID-19 a ddefnyddir yn y DU i fenywod beichiog cymwys, neu’r rhai sy’n ceisio beichiogi ac sy’n gymwys. Mae hyn yn cynnwys menywod cymwys sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol o COVID-19, fel y rhai â chyflwr meddygol sy’n gwanhau’r system imiwnedd. 

Os ydych chi’n feichiog, dylech chi ddweud wrth y nyrs neu’r person sy’n rhoi’r brechiad i chi. 

Os ydych chi’n ceisio beichiogi, nid oes angen osgoi beichiogrwydd ar ôl cael brechiad COVID-19. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod brechlynnau COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb na’ch siawns o feichiogi. 

Dangoswyd bod y brechlynnau presennol yn effeithiol ac yn ddiogel, heb unrhyw effeithiau negyddol ar feichiogrwydd na’r babi. Nid yw cael y brechlyn yn cynyddu’r risg o gamesgoriad. 

Rwy’n gymwys i gael brechiad COVID-19 ac rwy’n bwydo ar y fron. A alla i gael y brechlyn?

Gallwch, gellir rhoi brechlynnau COVID-19 a ddefnyddir yn y DU i bobl sy’n bwydo ar y fron. 

Ar ôl cael brechlyn, mae eich system imiwnedd yn cynhyrchu gwrthgyrff. Mae’r rhain yn sylweddau naturiol sy’n eich helpu i amddiffyn rhag feirysau a bacteria. Gall y gwrthgyrff hyn basio i laeth y fron a gallant helpu i amddiffyn babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron. Nid oes unrhyw dystiolaeth o niwed i’r babi a disgwylir i unrhyw olion gael eu chwalu gyda llaeth y fron yn stumog y babi. 

Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i fwydo ar y fron er mwyn cael y brechlyn COVID-19. 

Cael y brechlyn 

Ble byddaf yn cael fy mrechiad COVID-19?

Efallai y bydd y brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig yn eich practis meddyg teulu, fferyllfa gymunedol leol, canolfan frechu, neu drwy dîm symudol. Os ydych chi’n gaeth i’r tŷ neu’n byw mewn cartref gofal ac yn methu â mynd i bractis meddygon teulu neu ganolfan frechu, mae cynlluniau ar waith ar gyfer gwasanaeth symudol i ddod â’r gwasanaeth atoch chi. Efallai y bydd cleifion ysbyty sydd i fod i gael eu brechu yn cael cynnig eu brechiad yn yr ysbyty os yn bosibl. 

Byddwch yn cael gwybod ble i gael eich brechlyn (safle allanol) ar ôl i chi dderbyn eich apwyntiad. Os na allwch fynd, rhowch wybod i’r tîm archebu fel y gallant roi’r apwyntiad i rywun arall. Gallant roi apwyntiad newydd i chi fel y gallwch gael y brechlyn cyn gynted â phosibl. Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad. Gallwch gysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol (safle allanol) am ragor o wybodaeth. 

Sut mae’r brechlyn yn cael ei roi?

Rhoddir y brechlyn fel pigiad yn rhan uchaf y fraich. Mae’r brechlyn yn cael ei roi i fabanod dan 12 mis oed trwy bigiad i’r glun. 

Oes angen i mi adael bwlch rhwng cael fy mrechlyn COVID-19 a brechlyn arall (er enghraifft, brechlyn yr eryr neu frechlyn RSV)?

Gellir rhoi brechlynnau COVID-19 ar yr un pryd, neu ar unrhyw gyfnod rhwng y rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Bydd y darparwr gofal iechyd sy’n rhoi’r brechlyn yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich brechlynnau cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi. 

Dydw i ddim wedi cael brechiad COVID-19, neu rydw i wedi methu un o’r dosau. A alla i gael y brechlyn?

Os ydych chi’n gymwys i gael brechiad COVID-19, dylech chi dal gael y brechlyn. Cynigir dau ddos ​​i blant rhwng 6 mis a 4 oed nad ydynt wedi derbyn brechlyn COVID-19 o’r blaen. Os oes gennych system imiwnedd sydd wedi’i gwanhau’n ddifrifol, efallai y bydd angen i chi gael mwy nag un dos. Siaradwch â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a fydd yn gallu trafod nifer y dosau i’w cael gyda chi. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29ain Mai 2025