Neidio i'r cynnwys

Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd ar: 25 Tach 2026

Mae Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn destun adolygiad gwella gwasanaeth i sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu gofal o’r ansawdd gorau i’r bobl sy’n ei ddefnyddio.

Trwy’r adolygiad hwn ac o ganlyniad i adborth gan ddefnyddiwr gwasanaeth, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru broblem yn ymwneud â llwybr profi penodol o fewn y Gwasanaeth Profi a Phostio. 

Roedd nifer gyfyngedig o unigolion yn gallu cyrchu’r llwybr hwn drwy’r platfform archebu cyhoeddus yn hytrach na’r llwybr dan oruchwyliaeth glinigol a fwriadwyd.

Roedd y llwybr yn cynnwys prawf am imiwnedd Hepatitis B yn hytrach na phrawf am haint Hepatitis B ac felly efallai yr oedd defnyddwyr gwasanaeth a gafodd ganlyniad negyddol ar gyfer y prawf hwn yn credu nad oedd ganddynt haint Hepatitis B. Hefyd, o ganlyniad i ddefnyddio’r llwybr cyhoeddus cafodd rhai defnyddwyr gwasanaeth brawf o weithrediad eu harennau na chyfathrebwyd iddynt ymlaen llaw ac ni chafodd y canlyniadau eu hanfon yn uniongyrchol atyn nhw na’u rhannu gyda’u Bwrdd Iechyd.  

Cymerodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gamau ar unwaith i ddileu mynediad i’r llwybr profi yr effeithiwyd arno mor fuan ag y nodwyd y broblem.

Mae’n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd ac rydym yn deall y gallai peri pryder i rai pobl. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored am yr hyn a ganfyddwn ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i gywiro problemau. Rydym yn cysylltu’n rhagweithiol â’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan hyn. Os na chlywch gennym ni, nid ydych wedi’ch effeithio ac nid oes angen i chi boeni na chysylltu â ni. 

Bob blwyddyn mae ein Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol yn prosesu bron i 100,000 o geisiadau am brofion iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae’r nifer sydd wedi’u heffeithio gan y broblem hon yn cynrychioli cyfran fach iawn o’r profion hynny.  

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Rydym yn deall y gallai’r sefyllfa hon fod wedi peri pryder, ac rydym eisiau ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw ofid a brofwyd. I rai pobl rydym yn cydnabod y gallai’r digwyddiad hwn fod wedi cael effaith arwyddocaol ar eu bywydau, ac nid ydym yn tanamcangyfrif pa mor ddifrifol yw hynny. 

“Dilëwyd y llwybr dan sylw oddi ar y platfform cyhoeddus pan nodwyd y mater ym mis Medi 2026. Rydym am sicrhau pobl fod gwasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru’n parhau’n ddiogel ac yn hygyrch, ac nid yw profion HIV wedi’u heffeithio gan y mater hwn. Mae diogelu eich iechyd yn bwysig, ac rydym yn annog unrhyw un sydd angen cyngor, profion neu gymorth iechyd rhywiol i barhau i ddefnyddio pa wasanaeth bynnag sydd fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, boed hynny drwy Iechyd Rhywiol Cymru, y Gwasanaeth Profi a Phostio neu eu clinig iechyd rhywiol lleol.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen iechyd rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

I gael cyngor a chymorth iechyd rhywiol, cysylltwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol.

Gallwch hefyd gael cymorth drwy gysylltu â’r sefydliadau canlynol: 

Cwestiynau Cyffredin

Beth ddigwyddodd?

Mae Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn destun adolygiad gwella gwasanaeth i sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu gofal o’r ansawdd gorau i’r bobl sy’n ei ddefnyddio.

Drwy’r adolygiad hwn ac o ganlyniad i adborth gan ddefnyddiwr gwasanaeth, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru broblem yn ymwneud â llwybr profi penodol o fewn y Gwasanaeth Profi a Phostio. 

Roedd modd i nifer gyfyngedig o unigolion ddefnyddio’r llwybr hwn drwy’r platfform archebu cyhoeddus yn hytrach na’r llwybr dan oruchwyliaeth glinigol a fwriadwyd.

Roedd y llwybr yn cynnwys prawf am imiwnedd Hepatitis B yn hytrach na phrawf am haint Hepatitis B ac felly efallai yr oedd defnyddwyr gwasanaeth a gafodd canlyniad negyddol ar gyfer y prawf hwn yn credu nad oedd ganddynt haint Hepatitis B.

Hefyd, o ganlyniad i ddefnyddio’r llwybr cyhoeddus cafodd rhai defnyddwyr gwasanaeth brawf o weithrediad eu harennau na chyfathrebwyd iddynt ymlaen llaw, ac ni anfonwyd y canlyniadau’n uniongyrchol atyn nhw na’u Bwrdd Iechyd.  

Cymerodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gamau ar unwaith i ddileu mynediad i’r llwybr profi yr effeithiwyd arno mor fuan ag y nodwyd y broblem.

Mae’n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd.

Sut ydw i’n gwybod a ydw i wedi cael fy effeithio?

Rydym yn cysylltu’n rhagweithiol â’r bobl hynny sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad hwn yn uniongyrchol. Os nad ydych yn clywed gennym ni yna nid ydych wedi cael eich effeithio ac nid oes angen i chi boeni na chysylltu â ni. 

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng prawf imiwnedd Hepatitis B a phrawf haint Hepatitis B?

Mae prawf imiwnedd Hepatitis B yn gwirio a oes gan berson imiwnedd i Hepatitis B, fel arfer ar ôl brechu neu amlygiad blaenorol.

Mae prawf haint Hepatitis B yn gwirio a oes gan berson haint Hepatitis B ar hyn o bryd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rydym wedi nodi’r defnyddwyr gwasanaeth hynny sydd wedi’u heffeithio gan y mater hwn ac yn cysylltu â nhw i ymddiheuro a chynnig prawf newydd iddynt.

A yw’r broblem wedi’i chywiro?

Ydy. 

Ni ellir cael mynediad at llwybr dan sylw mwyach.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnal adolygiad ehangach o’r gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol.

A yw’n dal yn ddiogel i ddefnyddio’r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol?

Ydy.

Mae’r gwasanaeth ehangach ar gael o hyd ac yn parhau i ddarparu profion a chyngor ar iechyd rhywiol ledled Cymru.

Rydym yn annog unrhyw un sydd angen profion iechyd rhywiol i barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth. Nid yw’r gwasanaeth profi HIV yn cael ei effeithio gan y digwyddiad hwn.

Pwy alla i gysylltu â nhw os ydw i’n poeni?

Os oes gennych bryderon am eich iechyd rhywiol, cysylltwch â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol neu GIG 111 Cymru am gyngor a chymorth.