Neidio i'r cynnwys

Sefydliadau yng Nghymru yn cael eu hannog i gryfhau eu hymdrechion i addasu i’r hinsawdd 

Cyhoeddwyd ar: 23 Tach 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen ar draws Cymru i gryfhau addasu i’r hinsawdd, diogelu iechyd, lleihau anghydraddoldebau a meithrin gwydnwch rhag effeithiau newid hinsawdd. 

Mae briff newydd, a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a phartneriaid, yn amlinellu’r camau ymarferol sydd eu hangen ar draws sectorau i feithrin gwydnwch, lleihau anghydraddoldebau a chefnogi system iechyd sy’n barod ar gyfer yr hinsawdd. Dylai gweithredu ar addasu hyrwyddo tegwch iechyd a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan helpu i greu cymunedau iachach, tecach a mwy gwydn ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory. 

Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru drwy risgiau fel gwres eithafol, llifogydd, llygredd aer, ansicrwydd bwyd a dŵr, tonnau o wres, tanau gwyllt a tharfu ar wasanaethau hanfodol ac effeithiau ar lesiant meddyliol. Disgwylir i’r effeithiau hyn gynyddu dros amser.  

Mae’r briff yn nodi camau gweithredu ar draws tair prif faes: cryfhau gwydnwch cymunedol a diogelu iechyd y cyhoedd; creu lleoedd iach sy’n wydn o ran yr hinsawdd; a galluogi system iechyd sy’n barod o ran yr hinsawdd. 

Dywedodd Rebecca Masters, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae newid hinsawdd yn cyflwyno risgiau cynyddol i iechyd a llesiant yng Nghymru, o effeithiau uniongyrchol tywydd eithafol i effeithiau tymor hwy ar gymunedau, gwasanaethau ac anghydraddoldebau. 

“Mae diogelu iechyd rhag newid hinsawdd yn gofyn am weithredu ar draws sectorau, o dai, cynllunio a thrafnidiaeth i iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau amgylcheddol, i helpu pobl i fyw bywydau iach heb y tarfu a’r pryder y gall risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd eu hachosi. 

“Mae’r briff hwn yn helpu i egluro lle y gall sefydliadau weithredu, lle mae angen gweithio mewn partneriaeth, a sut y gallwn adeiladu cymunedau iachach a mwy gwydn ledled Cymru.” 

“Drwy fabwysiadu dull ataliol nawr, gallwn leihau risgiau yn y dyfodol, diogelu’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a chreu Cymru iachach, decach sy’n fwy gwydn o ran yr hinsawdd.”