Neidio i'r cynnwys

Anogir ymchwilwyr, cyllidwyr a phartneriaid i fynd i’r afael â bylchau allweddol mewn tystiolaeth hinsawdd ac iechyd yng Nghymru 

Cyhoeddwyd ar: 20 Tach 2026

Mewn adroddiad newydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi wyth blaenoriaeth lle mae angen ymchwil a gwerthuso i gefnogi gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar wydnwch ac addasu i newid hinsawdd.  

Datblygwyd yr adroddiad Meysydd Ymchwil a Diddordeb Newid Hinsawdd ac Iechyd ar gyfer Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru trwy adolygiad o dystiolaeth newid hinsawdd, mewnbwn gan fwy na 100 o randdeiliaid a thrafodaethau gyda Bwrdd y Rhaglen Newid Hinsawdd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru drwy risgiau fel gwres eithafol, llifogydd, llygredd aer, ansicrwydd bwyd a dŵr, amhariad ar wasanaethau hanfodol ac effeithiau ar lesiant. Mae’r adroddiad yn nodi wyth maes allweddol lle gallai ymchwil yn y dyfodol helpu i gryfhau gwydnwch a gwella canlyniadau iechyd:  

  • Gwydnwch hinsawdd a pharodrwydd am argyfwng  
  • Tegwch iechyd a phoblogaethau sy’n agored i niwed  
  • Systemau iechyd cynaliadwy  
  • Iechyd meddwl a llesiant cymunedol  
  • Diogelwch bwyd a dŵr  
  • Ansawdd yr amgylchedd  
  • Amgylchedd adeiledig a thai  
  • Ymgysylltu â’r gymuned, cyfathrebu a chyd-gynhyrchu  

Bwriad y blaenoriaethau yw helpu i ffocysu ymchwil yn y dyfodol, arwain buddsoddiad a chefnogi cydweithio ar draws y byd academaidd, gwasanaethau cyhoeddus, cyllidwyr, cymunedau a’r trydydd sector.  

Dywedodd Rebecca Masters, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae newid hinsawdd yn cyflwyno risgiau cynyddol i iechyd a llesiant yng Nghymru, o effeithiau uniongyrchol tywydd eithafol i effeithiau tymor hwy ar gymunedau, gwasanaethau ac anghydraddoldebau.”  

“Er bod y sylfaen dystiolaeth yn ehangu, mae bylchau pwysig yn parhau. Drwy nodi ein blaenoriaethau ymchwil, ein nod yw helpu i ffocysu ymchwil a buddsoddiad yn y dyfodol ar y meysydd a all gael yr effaith fwyaf ar ddiogelu iechyd a lleihau anghydraddoldebau.  

Rydym yn annog partneriaid i weithio gyda ni i gynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi gweithredu effeithiol ar newid hinsawdd a dyfodol iachach i bobl yng Nghymru.  

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwahodd sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb yn y mater hwn i lywio cynigion ymchwil, penderfyniadau ariannu, partneriaethau a phrosiectau.” Rydym hefyd yn croesawu cyfleoedd i ddatblygu blaenoriaethau yn rhaglenni ymchwil a ariennir a all gynhyrchu tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer.  

“Gall y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ymchwil i newid hinsawdd ac iechyd gysylltu â’r Swyddfa Ymchwil a Datblygu yn [email protected].”