Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Adroddiad Modiwl 7 Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU
Cyhoeddwyd ar: 19 Tach 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r adroddiad o Fodiwl 7 yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19 a’i ffocws ar werthuso dull y DU o brofi, olrhain ac ynysu yn ystod pandemig Covid-19, gan gynnwys polisïau o Gymru.
Mae ein meddyliau’n parhau gyda phawb a gollodd anwyliaid, ffrindiau a chydweithwyr yn ystod pandemig Covid-19. Rydym yn cydnabod yr effaith ddofn a gafodd ar bobl ledled Cymru.
Byddwn yn ystyried yr adroddiad a’i argymhellion yn ofalus ac yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, partneriaid ledled Cymru ac asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill ledled y DU, er mwyn sicrhau bod dysgu a gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwreiddio yn ein paratoadau ar gyfer unrhyw argyfwng yn y dyfodol, ac yn ein hymateb iddo.
Mae parhau i ddysgu o’n profiadau o’r pandemig yn hanfodol i gryfhau ein parodrwydd a gwella sut rydym yn amddiffyn iechyd a llesiant ein poblogaeth.