Neidio i'r cynnwys

Ap y GIG am ddim wedi’i lansio i helpu unigolion i roi’r gorau i fepio wrth i gyfyngiadau gwerthu newydd gael eu gorfodi

Cyhoeddwyd ar: 29 Hyd 2026

Gall pobl yng Nghymru sydd eisiau rhoi’r gorau i fepio gael cymorth am ddim, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i reoli eu chwantau, lleihau eu defnydd a chynllunio sut y byddant yn rhoi’r gorau iddi drwy fodiwl ap newydd a lansiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Daw hyn wrth i gyfreithiau newydd sy’n ymestyn cyfyngiadau ar werthu a hyrwyddo cynhyrchion fepio a nicotin anfeddyginiaethol ddod i rym heddiw. Mae’r newidiadau’n ymestyn y gwaharddiad ar werthu i rai dan 18 oed i gynnwys fêps heb nicotin a chynhyrchion nicotin fel cydau. Maent hefyd yn gwahardd rhoddion hyrwyddo a gostyngiadau hyrwyddo sylweddol ar y cynhyrchion hyn. 

Mae’r modiwl fepio yn ap Helpa Fi i Stopio GIG Cymru yn galluogi defnyddwyr i osod nodau, olrhain eu cynnydd a mynd i’r afael â’r arferion a all ei gwneud hi’n anodd rhoi’r gorau i fepio. 

Mae mwy o bobl yn ceisio cymorth i leihau faint maen nhw’n fepio neu i roi’r gorau iddi, gan gynnwys cyn-ysmygwyr a ddefnyddiodd fepio i roi’r gorau i dybaco ac sydd bellach eisiau dod yn rhydd o nicotin. 

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod fepio yn parhau i fod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu, ac y dylai aros yn ddi-fwg barhau i fod yn flaenoriaeth i unrhyw un sydd wedi defnyddio fêps i roi’r gorau i ysmygu. 

Mae’r modiwl newydd yn cynnig cynllun rhoi’r gorau iddi wedi’i bersonoli, cefnogaeth i leihau cryfder nicotin ac amlder fepio, ac offer ymarferol i reoli chwantau. Mae hefyd yn helpu pobl i ddeall eu dibyniaeth ar nicotin a chael cymorth pellach lle bo angen. 

Dywedodd Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae fepio wedi helpu llawer o bobl yng Nghymru i roi’r gorau i ysmygu a pharhau i fod yn ddi-fwg. I’r unigolion hynny, ein blaenoriaeth yw lleihau’r risg y byddant yn ysmygu eto. 

“Mae’r modiwl fepio newydd yn darparu ymateb ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n gymesur. Mae’n helpu pobl i ddeall eu defnydd o nicotin, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth a lleihau faint maen nhw’n fepio neu roi’r gorau iddi ar gyflymder sy’n iawn iddyn nhw.” 

“Ar yr un pryd, rydym yn clywed gan nifer cynyddol o oedolion a hoffai gael cymorth i ddod yn gwbl rhydd o nicotin.” 
 
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans: 

“Mae help a chymorth ar gael i unrhyw un sy’n dymuno roi’r gorau i fepio neu lleihau faint maent yn fepio, ac mae’r modiwl newydd sy’n cael ei lansio fel rhan o ap Helpa Fi i Stopio yn rhan bwysig o’r cymorth hwnnw. 

“Mae’r deddfau newydd sy’n dod i rym yn gam pwysig wrth ddiogelu iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Drwy atal pobl o dan 18 oed rhag cael mynediad at gynhyrchion fepio a nicotin, a mynd i’r afael â rhoddion am ddim a’r gostyngiadau sydd wedi’u cynllunio i’w temtio, rydym yn rhoi cyfle gwell i’n plant a’n pobl ifanc dyfu i fyny yn iachach ac yn rhydd rhag caethiwed i nicotin. 

“Bydd y camau hyn yn ein helpu i ddiogelu iechyd pobl ledled Cymru, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 

Mae modiwl yr ap, sydd wedi’i dargedu’n bennaf at oedolion, yn cael ei lansio ochr yn ochr ag adnoddau dwyieithog eraill i helpu pobl i gymryd y cam nesaf tuag at ddod yn rhydd o fepio. 

Mae’r rhain yn cynnwys Eich Cynllun Stopio, teclyn ar-lein i helpu pobl i osod nodau a chynllunio sut i roi’r gorau iddi, Passport to Vape Free, sy’n cynnig cyngor ar reoli chwantau a rhoi’r gorau iddi’n raddol neu mewn un cam, a Vape Taper Tracker i helpu pobl i fonitro eu fepio, nodi sbardunau ac olrhain eu cynnydd. 

Gall pobl ddefnyddio’r adnoddau’n annibynnol neu ochr yn ochr â chymorth lleol Helpa Fi i Stopio lle bo hynny ar gael. Mae’r dull yn cydnabod bod gan bobl wahanol resymau dros fepio a’u bod angen gwahanol lefelau o gymorth: gall llawer o unigolion weithio tuag at roi’r gorau iddi gan ddefnyddio offer hunangymorth ymarferol, tra gall unigolion eraill elwa ar gymorth ychwanegol. 

Mae hefyd yn cynnwys canllawiau newydd i athrawon, gweithwyr ieuenctid, timau nyrsio ysgolion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n fepio. 

Mae Vape Wise a’r Canllaw Dibyniaeth ar Nicotin yn rhoi cyngor ymarferol ar siarad am fepio, cydnabod dibyniaeth ar nicotin a helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’r gefnogaeth briodol. Mae’r ddau wedi’u datblygu’n bennaf ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc 12–17 oed. 

Neges Iechyd Cyhoeddus Cymru yw na ddylai plant a phobl ifanc ysmygu na fepio, ac na ddylai pobl nad ydynt yn ysmygu ddechrau fepio. 

Fodd bynnag, dylai pobl ifanc sydd eisoes wedi datblygu dibyniaeth ar nicotin allu ceisio cymorth heb gael eu barnu. Mae cymorth a gwybodaeth ar gael gan oedolion dibynadwy, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac adnoddau Helpa Fi i Stopio. 

Gall pobl hefyd gael mynediad at wybodaeth a chymorth drwy:

  • Ymweld â helpafiistopio.cymru  
  • Ffonio Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219. 
  • Anfon neges destun sy’n cynnwys y llythrennau ‘HMQ’ at 80818 

Gellir lawrlwytho’r apiau yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau a grybwyllir yn yr stori hon ar gael drwy ddefnyddio’r dolenni isod.