Cyfraddau tynnu dannedd plant yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig
Cyhoeddwyd ar: 27 Hyd 2026
Mae’r cyfraddau atgyfeirio ar gyfer rheoli pydredd dannedd plant yng Nghymru wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2022/23, yn ôl adroddiad wedi’i ddiweddaru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r adroddiad, sy’n cwmpasu data o 2019/20 i 2025/26, yn dangos bod y cyfraddau atgyfeirio ar gyfer rheoli pydredd dannedd plant wedi gostwng yn sydyn yn ystod pandemig COVD-19 cyn codi eto. Fodd bynnag, mae’r cyfraddau tynnu dannedd o dan anesthetig cyffredinol yn parhau i fod islaw’r lefelau cyn y pandemig yn genedlaethol.
Dros y cyfnod o saith mlynedd, cofnodwyd 62,537 o atgyfeiriadau drwy’r system rheoli atgyfeiriadau electronig. O’r rhain, roedd 51,704 neu 82.7 y cant oherwydd pydredd dannedd. Mae’r ffigurau hyn yn cyfrif yr atgyfeiriadau ac nid plant unigol o reidrwydd.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at yr amrywiad mewn cyfraddau bras ar gyfer atgyfeiriadau a thynnu dannedd ar draws y Byrddau Iechyd yng Nghymru. Mae hefyd yn awgrymu bod mwy o atgyfeiriadau’n dod o ardaloedd difreintiedig a phoblog a bod plant o ardaloedd mwy gwledig yn teithio ymhellach i dderbyn gofal. Bydd y canfyddiadau’n helpu i lywio gwaith ataliol a chynllunio gwasanaethau deintyddol
Dywedodd Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod y cyfraddau’n parhau islaw’r lefelau cyn y pandemig, mae’n parhau i fod yn bryder bod angen tynnu dannedd llawer o blant o dan anaesthesia cyffredinol.
“Dylid sefydlu arferion da ar gyfer iechyd y geg yn gynnar. Gall rhieni a gofalwyr helpu drwy oruchwylio eu plentyn wrth iddo frwsio ei ddannedd ddwywaith y dydd gan ddefnyddio past dannedd fflworid, a chyfyngu ar fwydydd a diodydd llawn siwgr.
Mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli’r amrywiad yng nghyfraddau bras atgyfeirio rhwng y byrddau iechyd gan y gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar hyn, megis lefel sylfaenol anghenion iechyd y geg y boblogaeth, cyfraddau mynediad at wasanaethau deintyddol, yr amseroedd o’r Atgyfeiriad i’r Driniaeth a chyflenwad y gwasanaethau sydd ar gael.
“Mae’r dadansoddiad hwn yn ein helpu i ddeall y galw am ofal ac mae’n cefnogi ein gwaith gyda phartneriaid i wella iechyd y geg ymhlith plant Cymru.”