Neidio i'r cynnwys

Ailymweld â’r diwrnod: Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru 2026 

Cyhoeddwyd ar: 22 Hyd 2026

Ddydd Mawrth 13 Hydref, ymunodd dros 350 o gynrychiolwyr â ni ar gyfer Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru yng Nghlwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd.

Ymunodd partneriaid o’r sectorau cyhoeddus, preifat, academaidd a thrydydd sector â ni ar gyfer ein digwyddiad blaenllaw, gan ganolbwyntio ar thema ‘rhoi pobl wrth wraidd gwaith ataliol’. 

Roeddem yn falch o gael cychwyn ein cynhadledd a chael ein cynrychiolwyr i sefyll ar eu traed gyda pherfformiad egnïol gan Choirs for Good. Ymunodd Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, â ni hefyd, a siaradodd am bwysigrwydd ‘chwyldro atal’, ac yna siaradodd Lars Münter, Cyfarwyddwr Rhyngwladol o’r Academi Llesiant Nordig.  

Arweiniwyd gweithdai a sgyrsiau sydyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Dream Team, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, Llywodraeth Cymru, a Platfform ymhlith llawer o rai eraill o fyrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector. Archwiliodd y gweithdai a’r sgyrsiau sydyn lesiant ariannol, mannau iach, newid hinsawdd, gofal lleol mewn cymunedau a darparu’r dechrau gorau mewn bywyd.

Diolch i bawb a ddaeth i’r gynhadledd, a gymerodd ran yn y gweithdai ac i bawb a gyfrannodd at y diwrnod. Gobeithiwn ei fod wedi bod yn gyfle i chi rwydweithio, rhannu dysgu ac arloesi a datblygu partneriaethau.

Gwylio ein fideo crynodeb o’r digwyddiad.

Darllen, Iechyd Da, ein cylchgrawn cydymaith i’r gynhadledd.