Neidio i'r cynnwys

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Adroddiad Modiwl 6 Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU

Cyhoeddwyd ar: 20 Hyd 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r adroddiad ar Fodiwl 6 yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19 a’i ystyriaethau ynghylch effaith pandemig Covid-19 ar gartrefi gofal a lleoliadau gofal i oedolion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

Mae ein meddyliau gyda phawb a gollodd anwyliaid, ffrindiau a chydweithwyr yn ystod pandemig Covid-19. Rydym yn cydnabod yr effaith ddofn a gafodd y pandemig ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. 

Byddwn yn ystyried yr adroddiad a’r argymhellion yn fanwl ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid ledled Cymru ac asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill ar draws y DU, i sicrhau bod unrhyw newidiadau neu welliannau angenrheidiol yn cael eu hymgorffori wrth baratoi ar gyfer argyfwng yn y dyfodol, ac wrth ymateb i’r argyfwng hwnnw. Mae parhau i ddysgu o’n profiad o’r pandemig yn hanfodol er mwyn gwella’r modd yr ydym yn amddiffyn iechyd a llesiant ein poblogaeth yn y dyfodol.