Neidio i'r cynnwys

Digwyddiad llygredd ar Afon Taf 

Cyhoeddwyd ar: 19 Hyd 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr achos llygredd sy’n effeithio ar lednant afon Taf.  

Dywedodd llefarydd o Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Gall anwedd cerosin fod ychydig yn llidus i’r system resbiradol ac fel hylif gall achosi llid i’r croen.”  Ar hyn o bryd ein hasesiad yw y gallai pobl sy’n arogli cerosin brofi llid dros dro, yn enwedig os ydynt mewn cysylltiad ag ef am gyfnodau hir. 

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori trigolion i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau tra bo’r arogl yn bresennol a’u hagor unwaith y bydd yr arogl wedi mynd. Fel rhagofal, dylech osgoi cyffwrdd y dŵr dan sylw.  Os gwnaethoch gyffwrdd y dŵr, tynnwch y dillad oeddech chi’n eu gwisgo ar y pryd a golchwch unrhyw rannau o’ch croen a ddaeth i gyffyrddiad ag ef gyda dŵr a sebon.     

“Dylai unrhyw un sy’n teimlo’n sâl neu sy’n pryderu am eu symptomau ofyn am gyngor meddygol drwy gysylltu â GIG 111 Cymru. 

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill i asesu’r sefyllfa a monitro unrhyw effeithiau posibl ar iechyd y cyhoedd.”