Neidio i'r cynnwys

Cefnogaeth gyhoeddus gref yng Nghymru i wneud bwyd a diod iachach yn ddewis haws

Cyhoeddwyd ar: 15 Hyd 2026

Mae arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cefnogaeth gref ymhlith pobl yng Nghymru i wneud bwyd a diod iachach yn opsiwn diofyn – gan hyrwyddo opsiynau iachach, a rhoi llai o ffocws ar ddewisiadau llai iach.  

Mae mwy na thri chwarter o bobl yng Nghymru (77 y cant) yn cefnogi gwneud hysbysebu, cynigion arbennig a hyrwyddiadau prisiau ar fwyd a diod iachach yn ddull diofyn; mae 16 y cant yn ddifater, ac mae 6 y cant yn gwrthwynebu. Mae cefnogaeth yn parhau’n uchel (72 y cant) hyd yn oed os yw’n golygu llai o hyrwyddiadau prisiau, cynigion arbennig neu hysbysebu ar gyfer bwyd a diod nad ydynt yn iach; mae 18 y cant yn ddifater ac 8 y cant yn gwrthwynebu.   

Mae ‘Iach yn ddiofyn’ yn golygu gwneud bwyd a diod iachach yn haws i’w canfod, eu prynu a’u dewis mewn mannau bob dydd fel ysgolion, ysbytai, caffis, canolfannau hamdden a chanolfannau trafnidiaeth. Gallai hyn olygu darparu rhagor o opsiynau sy’n is mewn calorïau, braster, siwgr a halen, cynnig meintiau dognau iachach, a gwneud diodydd a chyfwydydd iachach, heb siwgr yn opsiynau safonol a gynigir gyda phrydau bwyd. 

At ei gilydd, mae 81 y cant o bobl yn cefnogi gwneud bwyd a diod iachach yn opsiwn diofyn mewn lleoedd a ariennir yn gyhoeddus, gyda chefnogaeth hyd yn oed yn gryfach i rai lleoliadau. Mae mwy na 90 y cant yn credu y dylai opsiynau iachach fod yn ddiofyn mewn ysgolion, lleoliadau gofal plant ac ysbytai, ac mae mwy nag 80 y cant yn cefnogi’r dull hwn mewn lleoliadau gofal iechyd eraill a chanolfannau hamdden, cyfleusterau chwaraeon a phyllau nofio.  

Roedd cefnogaeth gref hefyd i wneud bwyd a diod iachach yn ffocws hysbysebu, wrth roi cynigion arbennig a hyrwyddo prisiau. Roedd o leiaf 80 y cant yn cefnogi hyn ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion; lleoliadau gofal plant; ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill; a chanolfannau hamdden, cyfleusterau chwaraeon a phyllau nofio.  

Ochr yn ochr â chynyddu argaeledd a hyrwyddo opsiynau iachach, gall rhoi gwybodaeth faethol glir helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus wrth fwyta oddi cartref.  

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu y dylai gwybodaeth faethol fod ar gael ar gyfer bwyd a diod sy’n cael ei baratoi y tu allan i’r cartref. O ran bwyd, mae 70 y cant yn credu y dylai fod ar gael bob amser ac mae 24 y cant yn credu y dylai fod ar gael ar gais. Ar gyfer diodydd, mae 66 y cant yn credu y dylai gwybodaeth faethol fod ar gael bob amser ac mae 27 y cant yn credu y dylai fod ar gael ar gais.  

Daeth y canfyddiadau o arolwg diweddaraf Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, panel cenedlaethol o oedolion 16 oed a throsodd, sy’n byw ledled Cymru ac sy’n cynrychioli’r boblogaeth yn fras o ran oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’n cefnogi arolygon eraill sy’n dangos bod pobl yng Nghymru am iddi fod yn haws iddynt gael mynediad at fwyd iachach wrth fwyta y tu allan i’r cartref. 

Dywedodd Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod pobl yng Nghymru am iddi fod yn haws gwneud dewisiadau iachach pan maen nhw’n bwyta i ffwrdd o adref. Ni ddylai gwneud dewis iach fod yn anodd, yn enwedig yn y mannau cyhoeddus a’r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn eu defnyddio. Mae gan y lleoliadau hyn rôl bwysig i’w chwarae wrth wneud dewisiadau iachach yn hawdd i’w canfod, eu deall a’u dewis.” 

Meddai Steve Adie, Pennaeth Polisi Safonau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: 

“Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod pobl yng Nghymru eisiau gwybodaeth glir i’w helpu i wneud dewisiadau gwybodus am y bwyd maen nhw’n ei brynu ac yn ei fwyta y tu allan i’r cartref. Er mai busnesau a sefydliadau cyhoeddus sy’n gwneud penderfyniadau am y bwyd sydd ar gael, mae labelu clir, cywir ac hygyrch yn chwarae rôl bwysig wrth helpu defnyddwyr i ddeall eu dewisiadau a dewis beth sy’n iawn iddyn nhw.” 

Mae’r arolwg ar gael ar wefan Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant.