1,000 o blant wedi cael eu brechu yn erbyn Hepatitis A yn y Barri ond mae amser o hyd i amddiffyn eich plentyn
Cyhoeddwyd ar: 10 Medi 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn diolch i rieni a gofalwyr yn y Barri ar ôl i 1,000 o blant gael brechiad Hepatitis A fel rhan o’r ymateb i’r achosion parhaus. Mae hefyd yn atgoffa teuluoedd bod amser o hyd i blant gael eu brechu cyn i’r rhaglen ddod i ben ddydd Sadwrn yma (12 Medi).
Mae cannoedd o deuluoedd ledled y Barri eisoes wedi manteisio ar y cynnig, gan helpu i amddiffyn eu plant a lleihau’r cyfle i Hepatitis A ledaenu yn y gymuned.
Os nad yw eich plentyn wedi cael ei frechu eto, nid ydych chi wedi colli’ch cyfle.
Gall plant cymwys gael eu brechiad yr wythnos hon. Bydd y clinigau olaf yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn 12 Medi yn Ysbyty’r Barri.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gofalwyr sydd wedi bod yn bwriadu mynd â’u plant i gael eu brechu ond sydd heb wneud hynny eto, i’w flaenoriaethu cyn i’r clinigau orffen.
Dywedodd Susan Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae cyrraedd 1,000 o frechiadau yn garreg filltir wych, a hoffem ddiolch i’r holl rieni a gofalwyr sydd wedi dod â’u plant i gael eu brechu.
“Mae pob brechiad yn helpu. Drwy sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu, mae teuluoedd yn helpu i’w hamddiffyn rhag Hepatitis A ac hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd yr haint yn lledaenu i blant eraill, teuluoedd a chymuned ehangach y Barri.
“Rydyn ni’n gwybod bod bywyd teuluol yn brysur ac mae llawer o resymau pam efallai nad yw pobl wedi gallu mynd â’u plant i gael eu brechu eto. Os nad ydych wedi cael cyfle eto, peidiwch â phoeni, mae amser o hyd.
“Ond mae’r cyfle bellach yn dirwyn i ben, felly byddem yn annog pawb sydd â phlentyn cymwys nad yw wedi cael ei frechu eto i ddod draw cyn i’r clinig olaf gau ddydd Sadwrn.
“Mae mwy na 1,000 o blant eisoes wedi cael eu hamddiffyn. Os yw eich plentyn yn gymwys, helpwch ni i’w wneud yn un o’r rhai nesaf.”
Cyflwynwyd y rhaglen frechu mewn ymateb i’r achosion o Hepatitis A yn y Barri. Mae’r cynnig ar gael i blant rhwng blwydd a phump oed sy’n byw yn y Barri, neu sy’n mynychu lleoliad gofal plant neu addysg yn y Barri.
Mae Hepatitis A yn haint yn yr afu sy’n cael ei achosi gan y feirws Hepatitis A. Bydd rhai plant ifanc yn cael mân symptomau neu ddim symptomau o gwbl, ond gallant barhau i drosglwyddo’r haint i unigolion eraill a allai fod yn fwy agored i niwed.
Mae brechu yn ffordd effeithiol o amddiffyn plant a helpu i atal trosglwyddiad o fewn y gymuned.
Peidiwch ag aros nes y bydd hi’n rhy hwyr.
Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i weithredu nawr yn hytrach na gohirio brechu.
Os oes gennych blentyn cymwys sydd heb gael ei frechu eto:
Dewch draw i Ysbyty’r Barri cyn dydd Sadwrn 12 Medi.
Mae’n gyflym, bydd yn helpu i amddiffyn eich plentyn, ac mae mwy na 1,000 o deuluoedd yn y Barri eisoes wedi gweithredu.
Mae amser o hyd, ond dim ond tan ddydd Sadwrn.