Rhieni yn Y Barri’n cael eu hannog i roi brechiad hepatitis A ar eu rhestr wirio dychwelyd i’r ysgol
Cyhoeddwyd ar: 27 Awst 2026
Mae rhieni a gofalwyr plant 1 i 5 mlwydd oed yn Y Barri’n cael eu hannog i weithredu nawr a sicrhau bod plant cymwys yn cael eu brechiad hepatitis A. Gyda brigiad o achosion hepatitis A yn parhau yn y dref a phlant yn dychwelyd i ysgolion yr wythnos nesaf, bydd cael brechiad i blant pum mlwydd oed ac iau cyn gynted â phosibl yn helpu i’w hamddiffyn nhw, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach, a lleihau’r risg o ledaeniad pellach.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog teuluoedd i roi brechu ar eu rhestr wirio dychwelyd i’r ysgol wrth i blant baratoi i fynd yn ôl i feithrinfeydd, lleoliadau gofal plant ac ysgolion ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Gall plant, yn enwedig y rhai dan bum mlwydd oed, brofi symptomau ysgafn iawn o hepatitis A neu efallai dim symptomau o gwbl. Mae hyn yn golygu y gall plentyn sydd â’r haint drosglwyddo’r feirws heb i’w rieni na’i ofalwyr sylweddoli eu bod yn sâl.
Mae brechu plant ifanc nid yn unig yn helpu i’w hamddiffyn rhag hepatitis A, ond hefyd i leihau lledaeniad pellach y feirws o fewn y gymuned. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall hepatitis A achosi salwch mwy difrifol mewn rhai pobl, gan gynnwys oedolion hŷn a phobl sy’n fwy agored i niwed oherwydd cyflyrau iechyd presennol neu system imiwnedd wan.
Nid oes angen i rieni a gofalwyr plant cymwys aros am apwyntiad. Mae’r clinig brechu yn Ysbyty’r Barri, Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH, bellach yn gweithredu fel clinig galw heibio, heb fod angen apwyntiad.
Mae’r clinig ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 9am a 5pm, tan ddydd Sadwrn 5 Medi.
Dywedodd Su Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Wrth i deuluoedd ddechrau paratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd, rydym yn gofyn i rieni a gofalwyr plant cymwys yn Y Barri roi brechiad hepatitis A ar eu rhestr o bethau i’w gwneud cyn dychwelyd i’r ysgol.
“Weithiau, gall plant ifanc brofi symptomau ysgafn iawn o hepatitis A, neu ddim symptomau o gwbl. Er efallai nad ydyn nhw i’w gweld yn sâl, maen nhw’n dal i allu trosglwyddo’r haint i bobl eraill.
“Drwy gael brechiad i’ch plentyn, nid yn unig yr ydych chi’n helpu i’w hamddiffyn nhw, rydych hefyd yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach drwy’r gymuned a chyrraedd pobl a allai fod yn llawer mwy agored i salwch difrifol.
Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae clinig brechu Ysbyty’r Barri bellach ar sail galw heibio, felly does dim angen gwneud apwyntiad. Mae’r clinig ar agor 6 diwrnod yr wythnos i helpu rhieni i ddewis diwrnod neu amser sy’n gyfleus iddyn nhw.
“Mae cael brechiad i’ch plentyn yn syml, yn ddiogel ac yn effeithiol a byddem yn annog rhieni nad ydynt wedi manteisio ar y cynnig eto i ddod draw cyn i’w plant ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.”
Mae hepatitis A yn haint yn yr afu a achosir gan y feirws hepatitis A. Fel arfer mae’n lledaenu trwy gysylltiad agos â pherson heintiedig neu drwy fwyd neu ddiod sydd wedi’i halogi â symiau bach o ysgarthion heintiedig.
Mae hylendid dwylo da’n parhau i fod yn ffordd bwysig o leihau’r risg o haint. Dylai pawb olchi eu dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr, yn enwedig ar ôl mynd i’r tŷ bach neu newid clytiau, a chyn paratoi neu fwyta bwyd.
Anogir rhieni a gofalwyr plant 1 i 5 oed sy’n gymwys ar gyfer y cynnig brechu i fanteisio ar y clinigau galw heibio cyn gynted â phosibl.
Manylion y clinig brechu
Mae’r brechiad yn cael ei gynnig i bob plentyn rhwng 1 a 5 mlwydd oed sy’n byw yn Y Barri neu’n mynd i ysgol, meithrinfa neu leoliad gofal plant arall yn Y Barri.
Ble: Ysbyty’r Barri, Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH
Pryd: Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 9am–5pm. Ar gau ar ŵyl y banc ddydd Llun.
Tan: Dydd Sadwrn 5 Medi
Apwyntiadau: Does dim angen apwyntiad – cerddwch i mewn.